Jump to content

Aelodau Bwrdd Cymdeithasau Tai



Crynodeb llawn


Darllenwch sut y gall CHC gefnogi aelodau bwrdd cymdeithasau tai i gyflawni dros eu sefydliadau a hyrwyddo rhagoriaeth ar draws y sector yng Nghymru

Mae aelodau Bwrdd yn hanfodol wrth osod diwylliant, gweledigaeth a nodau cymdeithasau tai. Mae ganddynt hefyd ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau a all gyfoethogi ein gwaith i ddylanwadu ar amgylchedd gweithredu cymdeithasau tai yng Nghymru.

O 2023 rydym wedi ehangu ein gwaith i gefnogi aelodau bwrdd drwy:

  • Peilota cyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio aelodau bwrdd wyneb yn wyneb yn y gogledd, de a’r gorllewin. Mae’r rhwydweithiau hyn yn gyfarfodydd anffurfiol i alluogi aelodau bwrdd i rannu profiadau gyda’u cymheiriaid a chael yr wybodaeth ddiweddaraf ar bynciau busnes hanfodol.
  • Cyflwyno cyfres o sesiynau gwybodaeth ar-lein a dargedir yn benodol at aelodau bwrdd, yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol ar y sector a phynciau mwy manwl.

Mae’r uchod yn ychwanegol i’r gwaith a wnawn drwy ein Cymuned Aelodau Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion a’n rhaglen ehangach o ddigwyddiadau, sy’n cynnwys cynadleddau wyneb yn wyneb, gweminarau a sesiynau sbotolau ar-lein.

Mae mwy o wybodaeth ar ddigwyddiadau ar y gweill yma.