Jump to content

16 Mehefin 2023

Cyflwyno CHIC Ltd fel aelod partner masnachol newydd

Cyflwyno CHIC Ltd fel aelod partner masnachol newydd

Fel rhan o gyfres o bostiadau am aelodau partner masnachol newydd Cartrefi Cymunedol Cymru, mae Jackie Leonard, Pennaeth Gwasanaethau Aelodau (Cymru), yn esbonio pam bod CHIC (Communities & Housing Investment Consortium) wedi dewis ffurfio partneriaeth newydd gyda’n sector.

Pam fod CHIC eisiau bod yn aelod partner masnachol i Cartrefi Cymunedol Cymru ac ymuno â sector cymdeithasau tai Cymru?

Mae CHIC yn falch iawn o ddod yn bartner masnachol i Cartrefi Cymunedol Cymru.

Rydym yn gwybod eich bod yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi cymdeithasau tai trwy Gymru, gan gynrychioli’r sector a rhoi llais ar y cyd.

Rydym yn gweld ein haelodaeth o Cartrefi Cymunedol Cymru fel partneriaeth ac ynddi, gyda’n gilydd, gallwn gefnogi cymdeithasau tai ymhellach i gyflawni eu nodau a’u hamcanion.

Er ei fod yn bennaf i ni yn ymwneud â datblygu’r gwasanaethau a datrysiadau iawn i fodloni anghenion cymdeithasau tai, rydym hefyd yn credu mewn dull mwy holistaidd o ran ein hymwneud â’r sector, gan gydnabod yr heriau anferth a wynebir ond hefyd cefnogi blaengaredd, cydweithio ehangach, a rhannu gwybodaeth.

Pa fanteision all CHIC eu dwyn i’n cymdeithasau tai sy’n aelodau a’r gwaith y maen nhw’n ei wneud?

Rydym yn pontio’r bwlch rhwng meddwl yn strategol a chyflawni’n weithredol, gan gynnig arbenigedd rheoli asedau, caffael wedi ei reoli’n llawn, cefnogaeth ymarferol i aelodau, cyswllt penodol â’r gadwyn gyflenwi a chefnogaeth fasnachol.

Trwy ein gwybodaeth a’n profiad o Reoli Asedau rydym yn gallu deall beth mae cymdeithasau tai yn ceisio ei gyflawni yn rhwydd a thrwy weithio’n agos gyda nhw gallwn helpu i gyflawni caffael effeithlon a datrysiadau contract.

Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?

Mae CHIC yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i’n haelodau yn y sector tai fforddiadwy, i gyrff sector cyhoeddus eraill ac i’n helusennau. Rydym yn darparu datrysiadau caffael a chefnogaeth contract, gan greu arbedion ariannol, effeithlonrwydd a mwy o werth cymdeithasol.

  • Mae gan ein haelodau fynediad at amrywiaeth eang o gontractwyr, cyflenwyr, masnachwyr ac ymgynghorwyr trwy ein fframweithiau a DPS (System Bwrcasu Ddeinamig), y gellir eu cael trwy gystadleuaeth ‘mini’ neu ddyfarniad uniongyrchol.
  • Mae aelodaeth o CHIC am ddim ac ar gael i unrhyw gorff sector cyhoeddus. Ar ôl dod yn aelod o CHIC, bydd y Pennaeth Gwasanaethau Aelodau (Cymru) yn eich helpu ar eich taith gaffael. Nid oes unrhyw ymrwymiad i ddefnyddio gwasanaethau CHIC ar ôl ymaelodi, ond mwyaf yn y byd y byddwch yn defnyddio ein set o ddatrysiadau, mwyaf yn y byd y byddwch yn ei arbed.
  • Mae ein Pennaeth Gwasanaethau Aelodau, sy’n gweithio o Gymru, yn rhoi un man cyswllt i aelodau.
  • Trwy ein gwasanaeth wedi ei reoli rydym yn darparu cefnogaeth eang trwy gydol y broses gaffael, gan gynnwys gwasanaethau aelodau dynodedig a chefnogaeth i reoli cadwyn gyflenwi. Ar ôl i gontractau gael eu dyfarnu, rydym yn parhau igynnig cefnogaeth trwy roi cyngor parhaus a rhoi adroddiadau i’n haelodau.
  • Rydym yn rheoli catalogau prisiau cystadleuol.
  • Gallwn ddarparu Adroddiadau Trafodion Aelod ac Adroddiadau Dadansoddwyr Cost y Diwydiant i’r aelodau sydd â chontractau byw.
  • Mae ein helusen CHIP (Community and Housing Investment in People) yn cael ei chefnogi gan CHIC i sicrhau bod manteision gwerth cymdeithasol yn cael eu cyflawni o ganlyniad uniongyrchol i weithgareddau rheoli asedau a chaffael CHIC.

Dysgwch ragor gan CHIC Ltd

● Ffoniwch Jackie Leonard ar 07436 9129567 neu anfon e-bost at jleonard@chicltd.co.uk

● Ewch i wefan CHIC chicltd.co.uk

Dilynwch CHIC Ltd ar y cyfryngau cymdeithasol:

LinkedIn

Twitter

Youtube