Ymateb: Datganiad Hydref 2023 - Diwygiadau budd-dal a chynnydd credyd cynhwysol
Yn Natganiad yr Hydref cyhoeddodd y Canghellor newidiadau i’r system budd-daliadau sy’n cynnwys diwygio’r Asesiad Galluedd Gwaith.
Gallai’r newidiadau hyn weld pobl ar salwch hirdymor yn cael eu hannog i ganfod swyddi o fewn 18 mis neu gael cais i fynd ar leoliad gwaith. Gallai pobl na allai wneud hyn fod mewn perygl o golli eu budd-daliadau.
Wrth siarad am y cyhoeddiad dywedodd Hayley Macnamara, ein rheolwr polisi a materion allanol: “Bydd y diwygiadau i’r system budd-daliadau ac asesiadau galluedd gwaith a gyhoeddwyd heddiw yn drychinebus ar gyfer llawer o bobl na all weithio fel canlyniad i broblemau iechyd hirdymor dilys.
“Bydd y bygythiad o golli eu budd-daliadau os na allant ddod o hyd i waith yn ychwanegu pwysau enfawr ar bobl fregus sydd ar yr incwm isaf, yn cynnwys llawer sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai, pan maent eisoes mewn trafferthion gyda chynnydd mewn costau byw.
“Mae’r wltimatwm yma yn annerbyniol, ac mae’n hollol hanfodol y gall pobl sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai na allant weithio, barhau i fforddio’r hanfodion heb fyw mewn ofn cyson y byddant yn colli eu budd-daliadau.
“Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn gwneud popeth a fedrant i gefnogi pobl ar yr amser anhygoel o heriol hwn, a byddem yn annog unrhyw un sydd â phryderon i gysylltu gyda’u landlord.”
Yn ychwanegol, cyhoeddwyd cynnydd mewn credyd cynhwysol a budd-daliadau ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn unol â chyfradd chwyddiant mis Medi o 6.7%.
Wrth ymateb i’r newyddion yma ychwanegodd Hayley, “Caiff y newyddion y caiff credyd cynhwysol a budd-daliadau eraill eu cynyddu gan 6.7% ei groesawu gan bobl a theuluoedd nad ydynt wedi medru fforddio hanfodion sylfaenol drwy gydol yr argyfwng costau byw.
“Nawr, mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a hefyd Lywodraeth Cymru droi eu sylw at y ffyrdd eraill y mae pobl sydd ar yr incwm isaf – yn cynnwys tenantiaid cymdeithasau tai Cymru – yn dal i fod angen cymorth i’w helpu i ddelio gyda’r blynyddoedd o ddyled a straen a achoswyd gan gostau cynyddol.
“Mae hyn yn cynnwys rhoi blaenoriaeth i greu tariff cymdeithasol ynni a darparu dewisiadau ad-dalu fforddiadwy ar gyfer y rhai sydd mewn dyled ynni, yn ogystal â diogelu cronfeydd argyfwng presennol a sicrhau bod y llwybrau i gymorth yn hygyrch ac wedi eu targedu at y rhai sydd fwyaf o’u hangen.”