Jump to content

29 Tachwedd 2023

Ymateb: Argymhellion Pwyllgor Deisebau y Senedd ar gostau ynni a mesuryddion blaendalu

Ymateb: Argymhellion Pwyllgor Deisebau y Senedd ar gostau ynni a mesuryddion blaendalu

Mae galwadau ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ychwanegol i ddiogelu rhai o bobl fwyaf bregus Cymru rhag cynnydd mewn costau ynni.

Gwnaeth Pwyllgor Deisebau y Senedd argymhellion i Lywodraeth Cymru i gefnogi pobl ar incymau is, yn cynnwys llawer sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai, rhag cynnydd mawr mewn costau a dyledion tanwydd.

Mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio creu tariff cymdeithasol ynni ar gyfer y rhai sydd yn yr angen mwyaf.

Mae hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU ac Ofgem i egluro cod ymarfer o amgylch gorfodaeth i osod mesuryddion blaen-dalu, ac edrych ar wneud y canllawiau yn decach i helpu mwy o bobl sydd mewn risg o dlodi tanwydd.

Dywedodd Hayley Macnamara, arweinydd costau byw Cartrefi Cymunedol Cymru: “Mae argymhellion y Pwyllgor Deisebau am orfodaeth i osod mesuryddion blaendalu, a chreu tariff cymdeithasol ynni yn gam calonogol yn y cyfeiriad cywir ar gyfer miloedd o bobl fwyaf bregus Cymru, yn cynnwys llawer sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai.

“Ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd safwn gyda National Energy Action i alw am weithredu’r mesurau hyn fel mater o frys i sicrhau y gall y bobl ar yr incwm isaf wresogi eu cartrefi heb ofn wynebu dyledion cynyddol.

“Mae cymdeithasau tai a’u partneriaid yn gwneud popeth a fedrant i helpu pobl ar yr amser heriol hwn. Byddem yn annog unrhyw un sy’n byw mewn cartref cymdeithas tai yng Nghymru i gysylltu gyda’u landlord os ydynt yn bryderus am anawsterau ariannol.”

Gallwch ddarllen adroddiad llawn Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd yma sy’n galw am gyflwyno tariff cymdeithasol ynni a chymorth fel mater o frys ar gyfer tenantiaid cymdeithasau tai sydd ymysg y rhai y mae’r argyfwng costau byw wedi taro galetaf arnynt.