Jump to content

31 Gorffennaf 2023

Datganiad Cartrefi Cymunedol Cymru: Ffigurau incwm gwario

Datganiad Cartrefi Cymunedol Cymru: Ffigurau incwm gwario

Dengys ymchwil newydd o Asda's Income Tracker fod incwm gwario wedi gostwng yn ail chwarter o flwyddyn, a’i fod i lawr i 3.7% y flwyddyn.

Yn ôl y data mae Cymru ymysg y perfformwyr gwaethaf ar draws pob rhanbarth a ddadansoddwyd ar gyfer twf grym gwario yn ystod y cyfnod hwn. Cododd incwm gros ar gyfradd flynyddol o 5.5% yn yr ail chwarter - fodd bynnag hwn oedd y gwelliant gwannaf ymhlith yr holl ranbarthau a arolygwyd.

Bu Cartrefi Cymunedol Cymru yn ymgyrchu i roi sylw i’r effaith sylweddol a gafodd yr argyfwng costau byw ar enillwyr incwm isel a rhai pobl yn byw mewn cymdeithasau tai ar draws Cymru.

Rhannodd Hayley Macnamara, ein rheolwr polisi costau byw a materion allanol, ei barn ar y ffigurau diweddaraf:

“Mae pobl sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai ymysg y rhai y mae’r argyfwng costau byw wedi taro waethaf arnynt, a rydym yn gweld cyllidebau teuluoedd yn crebachu hyd yn oed ymhellach ar adeg pan fod pob ceiniog yn cyfrif.

“Mae cymdeithasau tai a’u partneriaid yn parhau i wneud popeth a fedrant i helpu teuluoedd ar yr amser anhygoel o anodd hwn ond mae cymorth cenedlaethol yn dal yn amlwg yn hanfodol.

“Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn cynnal ymchwil fanwl gyda’n haelodau i ddynodi pryderon mwyaf tenantiaid i sicrhau eu bod yn cael mynediad i’r cymorth mwyaf perthnasol."


Find out about Community Housing Cymru's work on the cost of living in our dedicated Cost of Living Hub.