Jump to content

27 Hydref 2023

Ymateb i adroddiad Mind at sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar iechyd meddwl

Ymateb i adroddiad Mind at sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar iechyd meddwl

Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan Mind wedi dangos effaith yr argyfwng costau byw ar iechyd meddwl pobl yng Nghymru a Lloegr. Dywedodd tri ym mhob 50 o bobl a arolygwyd eu bod wedi ystyried diweddu eu bywydau oherwydd y pwysau ariannol, tra bod un mewn pump yn dweud fod eu hiselder wedi gwaethygu oherwydd hynny.

Yn ychwanegol, dywedodd Mind fod pobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol dair gwaith yn fwy tebygol na’r rhai nad ydynt yn derbyn budd-daliadau i ystyried hunanladdiad oherwydd yr argyfwng costau byw.

Ers dyddiau cynnar iawn yr argyfwng, bu cymdeithasau tai yn cefnogi’r bobl sy’n byw yn eu cartrefi mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, yn cynnwys iechyd a llesiant. Fodd bynnag, dengys yr ymchwil hwn unwaith eto fod angen gweithredu cenedlaethol i helpu pobl i ddod drwyddi.

Dywedodd: “Roeddem yn drist darllen yr adroddiad diweddaraf gan Mind sy’n dangos y canlyniadau real iawn a thrasig y mae’r argyfwng costau byw yn ei gael ar fywydau pobl.

“Bu pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol ymysg y rhai a gafodd eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw, gyda llawer yn cael eu gorfodi i wneud dewisiadau anodd fel canlyniad. Rydym yn llwyr gymeradwyo galwad Mind am gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant yn y Datganiad Hydref y mis nesaf.

“Mae cymdeithasau tai a’u partneriaid yno i wrando a chynnig cymorth hanfodol i’r rhai sy’n wynebu anawsterau ariannol. Byddem yn annog unrhyw un gydag unrhyw bryderon am gostau cynyddol i gysylltu gyda’u landlord, a dim ceisio brwydro ymlaen ar ben eu hunain.”