Jump to content

14 Mehefin 2025

8 mlynedd ers Grenfell: Beth sydd nesaf ar gyfer diogelwch adeiladau yng Nghymru?

8 mlynedd ers Grenfell: Beth sydd nesaf ar gyfer diogelwch adeiladau yng Nghymru?

Dechreuodd tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain ar 14 Mehefin 2017 a arweiniodd at golli 72 bywyd. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn ystyried y newidiadau ddigwyddodd yn y sector cymdeithasau tai a beth sydd nesaf ar gyfer diogelwch adeiladau yng Nghymru.

Yn fuan ar ôl y drychineb, fe wnaeth Llywodraeth y DU gomisiynu’r Fonesig Judith Hackitt i gynnal adolygiad o Reoliadau Adeiladau a Diogelwch Tân, y cyfeirir ato hefyd fel Adolygiad Hackitt.

Dynododd nifer o fethiannau sylweddol a gwnaeth argymhellion am system reoleiddiol fwy cadarn. Mewn ymateb, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnull Grŵp Arbenigol ar Ddiogelwch Adeiladau, yr oedd CHC yn aelod ohono, a chyhoeddodd hyn ‘Map tuag at adeiladau mwy diogel yng Nghymru.

Cynllun Awdurdod Tân Sylfaenol

Yn 2019, fe wnaethom lansio’r bartneriaeth diogelwch tân gyntaf wedi ei chydlynu yn y Deyrnas Unedig – y Cynllun Awdurdod Tân Sylfaenol.

Fe’i sefydlwyd mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fel ymateb i ffocws cynyddol ar ddiogelwch adeiladau ers Grenfell.

Mae’r cynllun yn darparu rheoleiddiad tân cyson i gymdeithasau tai gan arwain yn y pen draw at wella diogelwch tenantiaid a gostwng y baich gweinyddol blaenorol ar gymdeithasau tai drwy ryngweithio gyda nifer o awdurdodau tân.

Mae’r cynllun wedi gwella’r berthynas gyda’r Gwasanaeth Tân yn sylweddol ac mae hefyd yn cynnig cyngor pwrpasol i gymdeithasau tai yn ogystal â hyfforddiant ar gyfer staff cymdeithasau tai.

Mae’r Cynllun Awdurdod Tân Sylfaenol yn darparu rheoleiddiad tân cyson i gymdeithasau tai gan arwain yn y pen draw at wella diogelwch tenantiaid a gostwng y baich gweinyddol blaenorol


Pwyll Piau Hi mewn Tai

Yn 2020, fe wnaethom lansio cynnig tryloywder diogelwch – Pwyll Piau Hi mewn Tai, sy’n cefnogi cymdeithasau tai i gyflawni a chynnal dull gweithredu tryloyw ar gyfer iechyd a diogelwch gyda’u preswylwyr.

Roedd hwn y cyntaf o’i fath ym Mhrydain a chafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru. Fe’i seiliwyd ar dair egwyddor greiddiol: bod yn dryloyw, agored ac atebol.

Mae’r fframwaith yn rhoi’r hyblygrwydd i gymdeithasau tai i gefnogi eu tenantiaid a sicrhau amgylcheddau cartref diogel ac iach yn y ffordd sydd fwyaf addas ar gyfer diwylliant ac arferion eu sefydliad.

Beth sy'n nesaf?

Mae diffyg cydraddoldeb mewn tai yn parhau yn her y mae cymdeithasau tai yn gweithio’n galed i fynd i’r afael ag ef, ond cymerwyd camau i sicrhau nad yw’r math yma o drychineb byth yn digwydd eto. Mae hyn yn cynnwys y gwaith a amlinellwn uchod ond hefyd newidiadau deddfwriaethol tebyg i’r Ddeddf Diogelwch Adeiladau, a ddaeth i rym yn Lloegr yn 2022.

Yng Nghymru, disgwyliwn y cyflwynir deddfwriaeth am ddiogelwch adeiladau yn ddiweddarach yn ystod yr haf eleni. Wrth ochr Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru), bydd yn un o’r darnau pwysicaf o ddeddfwriaeth i fynd drwy Senedd Cymru cyn etholiadau 2026.

Wrth baratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd a diwygio’r system diogelwch adeiladau sy’n debyg o ddod yn ei sgil, rydym wedi cynhyrchu nifer o adnoddau ar gyfer ein aelodau yn cynnwys y papur gwybodaeth hwn o fis Tachwedd 2024 (PDF, ar gael i aelodau CHC yn unig) a gweminar gyda Hugh James, ein partner masnachol.

Unwaith y cyhoeddir y ddeddfwriaeth byddwn yn gweithio gyda’n aelodau a phartneriaid i’w archwilio yn fanwl, gan sicrhau nad yw ei gweithrediad yn arwain at ganlyniadau anfwriadol.

Byddwn hefyd yn cefnogi cymdeithasau tai wrth iddynt gynnwys y ddeddfwriaeth yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd fel eu bod yn parhau i gydymffurfio ac y gallant barhau i adeiladu cartrefi fforddiadwy safon uchel lle mae tenantiaid yn ddiogel, ac yn teimlo yn ddiogel.

Ystyriaethau ar gyfer byrddau a gweithwyr proffesiynol llywodraethu

Rhannodd Olu Olanrewaju, Cyfarwyddwr Altair Cyf, ei farn yn ein Cynhadledd Llywodraethiant a Risg ddiweddar ar yr hyn y gall byrddau a swyddogion llywodraethiant ei ddysgu o Grenfell.

Tanlinellodd bwysigrwydd chwilfrydedd proffesiynol, gan herio aelodau bwrdd i ofyn cwestiynau na wnaiff eraill eu gofyn a’u hannog i fod yn gysurus gyda ffynonellau sicrwydd. “Nid yw credu yr hyn mae swyddogion yn ei ddweud wrthych yn ddigon da ... mae ffynonellau mor bwysig â’r sicrwydd a gaiff ei roi”.

Nododd hefyd fod angen i fyrddau fynd tu allan i ddulliau ymgysylltu traddodiadol – mae’n bwysig iddynt gael cyswllt uniongyrchol gyda thenantiaid hefyd, a gweld y lleoedd y maent yn byw ynddynt.

Atgoffodd Alicja Zalesinska, Prif Swyddog Gweithredol Tai Pawb, y gynulleidfa fod 85% o’r bobl a fu farw yn nhrychineb Tŵr Grenfell yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig (BAME) a bod anableddau gan 41%. “Nid rhywbeth damweiniol oedd hyn. Mae diffyg cydraddoldeb wedi ymwreiddio yn y system tai”. Fodd bynnag, “os yw diffyg cydraddoldeb yn rhan mor gynhenid o dai ... dylai hefyd fod yn rhan o ddatrysiadau.”