Jump to content

14 Tachwedd 2023

Ymateb: Taliadau cymorth costau byw

Ymateb: Taliadau cymorth costau byw

Mae’r Pwyllgor Gwaith a Phensiynau trawsbleidiol wedi dweud mai dim ond cymorth tymor byr y mae’r taliadau cymorth costau byw yn ei gynnig ar gyfer pobl sy’n cael trafferthion ariannol ac nad ydynt yn mynd i’r afael â maint y broblem.

Mae angen i’r Llywodraeth ehangu ei chymhwyster ar gyfer taliadau yn y dyfodol, yn ôl y pwyllgor, gan hefyd edrych ar heriau ariannol neilltuol sy’n wynebu gwahanol grwpiau.

Daw ei alwad ar ôl i ymchwiliad edrych ar y cymorth a gyflwynwyd i helpu gwarchod pobl sy’n hawlio budd-daliadau rhag chwyddiant a chynnydd mewn costau ynni. Yn ei ganfyddiadau, awgrymodd y pwyllgor y dylai’r Llywodraeth ystyried cynyddu credyd cynhwysol – yn hytrach na dyroddi taliadau.

Dywedodd Hayley Macnamara, ein rheolwr polisi a materion allanol sy’n arwain drosom ar yr argyfwng costau byw, fod angen gwneud mwy i wneud yn sicr nad yw anghenion ariannol tenantiaid cymdeithasau tai yn cael eu hanghofio.

Dywedodd: “Mae pobl sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai yn parhau i fod ymysg y rhai a gafodd eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw ac maent angen cymorth ariannol frys yn awr.

“Mae’n hanfodol cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant fel y gall pobl ar incwm is, yn cynnwys llawer sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai, fforddio hanfodion byw sylfaenol iawn.

“Mae hefyd yn hollol hanfodol fod adolygiad a chynnydd i’r Credyd Cynhwysol. Bydd hyn yn sicrhau fod pobl yn cael y lefel ofynnol o gymorth maent eu hangen i’w hatal rhag cael eu gorfodi i wneud dewisiadau hyd yn oed fwy torcalonnus ar wario.

“Galwn ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i weithredu nawr i sicrhau nad yw pobl sy’n byw mewn cymdeithasau tai yn cael eu hanghofio y gaeaf hwn. Byddem yn annog unrhyw un sy’n byw mewn cartref cymdeithas tai yng Nghymru i gysylltu â’u landlord os ydynt yn bryderus am anawsterau ariannol.”