Etholiad Cyffredinol 2024: datrys dilema deublyg sero net a thlodi tanwydd
Mae pobl ar draws y Deyrnas Unedig yn dal i gael trafferthion gyda chostau uchel gwresogi ac ynni. Er bod straeon yn y newyddion yn gyson bod biliau yn gostwng, y gwirionedd yw fod yr argyfwng ynni wedi achosi prisiau eithriadol o uchel ac er y gallant fod yn llacio, maent yn dal i fod yn llawer uwch nag oeddent cyn yr argyfwng.
Ymhellach, rhagwelir y byddant yn cynyddu eto yn hydref 2024.
Yng Nghymru, dengys yr amcangyfrifon diweddaraf gan Lywodraeth Cymru fod hyd at 45% (614,000) o aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd. Ymhellach, mae 8% (115,000) o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol.
Caiff tlodi tanwydd ei achosi gan gyfuniad o gostau ynni uchel, incwm isel ac effeithiolrwydd ynni gwael. Mae incwm pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol ymhlith yr isaf yn y Deyrnas Unedig. Mewn gwirionedd, tai rhent cymdeithasol yw’r math o ddaliadaeth mwyaf cyffredin ar gyfer aelwydydd diymgeledd, y ffurf ddyfnaf oll o dlodi.
Mae cymdeithasau tai nid-er-elw Cymru yn ceisio goroesi storm costau ynni uchel ar gyfer y tua 300,000 o denantiaid sydd ganddynt, gan gefnogi eu preswylwyr pan wynebant anhawster ariannol, a hefyd drwy wella ansawdd eu cartrefi. Er fod y cymorth tymor byr hwn i denantiaid, a gwella cartrefi ar gyfer y dyfodol, yn rhywbeth y byddant yn falch i barhau ei wneud, mae rhai ffyrdd allweddol yn dal i fod i lywodraeth nesaf y DU weithredu i sicrhau y caiff pobl eu codi allan o dlodi tanwydd a bod cartrefi yn cyflawni targedau sero net.
Tariff cymdeithasol ar gyfer defnyddwyr ynni domestig y DU
Rydym angen gweld y llywodraeth nesaf yn cyflwyno tariff ynni cymdeithasol. Mae hyn yn gyfradd gost is ar gyfer nwy a thrydan a gynlluniwyd yn benodol i gefnogi’r rhai yn yr angen mwyaf. Byddai cael tariff fel hyn yn diogelu aelwydydd incwm isel, gan eu galluogi i fforddio gwresogi eu cartrefi yn gyson.
I fynd i’r afael â mater brys tlodi tanwydd, dylid cymorth cyfraddau rhatach ac wedi’i dargedu fod ar gael yn awtomatig ar gyfer y rhai mewn angen. Dylai’r tariff fod ar gael i’r holl ddefnyddwyr domestig sy’n cael trafferthion gyda chostau byw ac sy’n gorfod dewis rhwng gwres a bwyd. Yn bwysig, dylai’r cymorth hwnnw gael ei ymestyn i’r rhai sy’n derbyn rhai budd-daliadau y mae prawf modd arnynt, defnyddwyr ynni sy’n byw oddi ar y grid nwy – i gydnabod costau uwch byw yng nghefn gwlad a’u dibyniaeth ar drydan a thanwydd na chaiff ei reoleiddio, a’r rhai sydd angen mwy o wres yn eu cartrefi oherwydd cyflyrau meddygol.
Mae tenantiaid tai cymdeithasol hefyd angen mwy o gymorth i ad-dalu dyledion ynni. Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn cefnogi’r cynnig Help i Ad-dalu a gaiff ei arwain gan yr Ymddiriedolaeth Cyngor Arian a chynghrair o elusennau yn cynnwys National Energy Action (NEA) Cymru, yn galw am Lywodraeth y DU i gyflwyno cynllun dros dro ar gyfer pobl sy’n cael trafferthion gyda dyledion ynni.
Datgarboneiddio tai cymdeithasol
Er mwyn mynd i’r afael o ddifri â malltod tlodi tanwydd, mae angen cyplysu tariff cymdeithasol ynni gyda gwella effeithiolrwydd ynni cartrefi. Mae hyn hefyd yn bwysig oherwydd ei fod yn golygu y bydd cartrefi yn gollwng llai o garbon, fydd yn ei dro yn cefnogi mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae cymdeithasau tai eisoes wedi dechrau ôl-osod eu cartrefi presennol ac adeiladu cartrefi newydd i safonau effeithiolrwydd ynni, ac mae Safon Ansawdd Tai Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob landlord cymdeithasol gyrraedd EPC C erbyn 2030 gyda tharged dilynol i gyrraedd EPC A.
Fodd bynnag, oherwydd fod cymdeithasau tai yng Nghymru yn sefydliadau nid-er-elw, adnoddau cyfyngedig sydd ganddynt i fynd i’r afael â thlodi a hefyd aneffeithiolrwydd ynni ar yr un pryd.
Gwyddom fod cost datgarboneiddio yn eithriadol o uchel. Mae’r amcangyfrifon o’r gost o ôl-osod cartref i safonau effeithiolrwydd ynni yn amrywio o £30,000 i £60,000. Mae’r rhain yn gostau na all cymdeithasau tai eu talu ar eu pen eu hunain – mae cefnogaeth gan Lywodraeth y DU yn hanfodol. Bydd y cymorth ariannol hwn yn ei gwneud yn bosibl i ostwng biliau ynni, gan wneud cartrefi yn gynhesach yn fwy fforddiadwy, gostwng allyriadau carbon gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chreu swyddi fydd yn hybu’r economi. Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU weld y cymorth ariannol hwn fel buddsoddiad o fudd i denantiaid a chymunedau yn awr ac i’r dyfodol.
Yn olaf, yr ymrwymiad olaf rydym angen ei weld gan y llywodraeth nesaf yw cefnogaeth i’r sector cyfan i gyflawni ei nodau sero net. Byddai hyn yn cynnwys hybu datblygu sgiliau gwyrdd a defnyddio’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i gyflymu buddsoddiad mewn prosiectau datgarboneiddio.