Jump to content

02 Tachwedd 2023

Ymateb: Plaid Cymru yn galw am gyflwyno tariff cymdeithasol ynni

Ymateb: Plaid Cymru yn galw am gyflwyno tariff cymdeithasol ynni

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnwys cyflwyno tariff cymdeithasol ynni yn Araith y Brenin ar 7 Tachwedd.

Mewn ymateb dywedodd Hayley Macnamara, ein rheolwr polisi a materion allanol, fod cyflwyno’r tariff yn hanfodol i alluogi’r rhai sydd ar incwm isel i wresogi eu cartref heb fynd i fwy o ddyled y gaeaf hwn.

Byddai’r tariff cymdeithasol ynni yn dariff ratach wedi ei thargedu at y rhai sydd yn yr angen mwyaf, yn cynnwys y rhai sydd mewn risg o dlodi tanwydd a rhai tenantiaid cymdeithasau tai.

Byddai’r mesurau yn cynnig datrysiad hirdymor ar gyfer y rhai sydd mewn mwyaf o risg, ac yn eu galluogi i gael mynediad i’r ynni maent ei angen fel mater o frys wrth i gostau byw barhau i godi.

Dywedodd Hayley: “Bydd y gaeaf hwn yn waeth ar gyfer llawer o bobl – ond yn arbennig ar gyfer y rhai sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai sy’n parhau i fod ymysg y rhai a gaiff eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw.

“Gyda biliau ynni yn awr bron ddwywaith yr hyn oeddent cyn yr argyfwng costau byw, mae’n hanfodol cyflwyno tariff ynni cymdeithasol i sicrhau y gall pobl ar incwm is, yn cynnwys llawer o denantiaid cymdeithasau tai, wresogi eu cartrefi heb ofn dyled gynyddol.

“Rydym yn sefyll gyda chynghrair o elusennau, yn cynnwys NEA Cymru, wrth annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi pobl sy’n cael trafferthion gyda dyledion cysylltiedig ag ynni.

“Mae cymdeithasau tai a’u partneriaid yn gwneud popeth a fedrant i helpu pobl yn y cyfnod heriol hwn. Byddem yn annog unrhyw un sy’n byw mewn cartref cymdeithas tai yng Nghymru i gysylltu gyda’u landlord os ydynt yn bryderus am anawsterau ariannol.”