Jump to content

09 Tachwedd 2023

Ymateb: Ymddiriedolaeth Trussell yn darparu bron 90,000 o barseli bwyd argyfwng

Ymateb: Ymddiriedolaeth Trussell yn darparu bron 90,000 o barseli bwyd argyfwng

Dywedodd Ymddiriedolaeth Trussell y rhoddwyd bron i 90,000 o barseli bwyd argyfwng i bobl yn ei fanciau bwyd ledled Cymru rhwng mis Ebrill a mis Medi eleni – cynnydd o 16% ar yr un cyfnod y llynedd.

Yn ôl yr elusen fe wnaeth hefyd ddarparu 32,000 o barseli bwyd argyfwng i bron 20,000 o blant drwy ei fanciau bwyd yng Nghymru.

Teimlai Ymddiriedolaeth Trussell y byddai’r sefyllfa yn gwaethygu, a rhagwelodd y caiff mwy na miliwn o barseli bwyd argyfwng eu dosbarthu rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Chwefror 2024.

Dywedodd Hayley Macnamara, ein rheolwr polisi a materion allanol, fod hyn yn annerbyniol ac ychwanegodd fod yn rhaid i fwyd fod yn fforddiadwy.

Dywedodd: “Mae’r ffaith fod angen 90,000 o barseli bwyd argyfwng oherwydd na all pobl fforddio hanfodion sylfaenol yn hollol annerbyniol.

“Mae cynnydd mawr mewn costau yn awr yn golygu fod bwyd yn un o’r prif resymau pam fod tenantiaid yn cysylltu â chymdeithasau tai i gael cymorth ariannol brys.

“Mae cymdeithasau tai a’u partneriaid yn gweithio’n galed i gefnogi pobl sy’n ei chael yn anodd iawn fforddio bwyta y gaeaf hwn, cynnig mynediad i gynlluniau gwaith, talebau a darparu parseli bwyd, gan eu helpu hefyd i uchafu eu hincwm.

“Mae’n rhaid i fwyd fod yn fforddiadwy a dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau fod cymorth llesiant yn ddigonol i dalu am hanfodion sylfaenol i alluogi pobl i’w bwydo eu hunain a’u teuluoedd heb fod angen cymorth argyfwng.”

Mae mwy o wybodaeth am ein gwaith costau byw ar gael yma.