Jump to content

06 Chwefror 2024

Tenantiaid sy’n cael trafferthion gyda’r cynnydd mewn costau byw yn derbyn cymorth ariannol hollbwysig gan gymdeithasau tai Cymru

Tenantiaid sy’n cael trafferthion gyda’r cynnydd mewn costau byw yn derbyn cymorth ariannol hollbwysig gan gymdeithasau tai Cymru

Mae Hayley Macnamara, rheolwr polisi a materion allanol CHC, sy’n arwain ar gostau byw, yn edrych ar y cymorth ariannol hollbwysig y mae timau cymdeithasau tai yn ei ddarparu, wrth i lawer o denantiaid Cymru barhau i weld eu sefyllfa ariannol dan bwysau difrifol oherwydd yr argyfwng costau byw.

Mae pobl ar incwm is, yn cynnwys llawer sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai ar draws Cymru, yn parhau i deimlo effeithiau dybryd yr argyfwng costau byw yn eu bywydau bob dydd.

Wrth i bris hanfodion yn cynnwys bwyd ac ynni barhau yn uchel, mae mwy a mwy o bobl sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai wedi troi at eu timau lleol ymroddedig am gymorth ariannol brys.

Yn ffodus, mae’r timau hyn yn fedrus wrth helpu pobl sy’n wynebu caledi ariannol, a gallant gynnig amrywiaeth o gefnogaeth i denantiaid sydd mewn angen.

Mae hyn yn cynnwys uchafu incwm, lle mae arbenigwyr yn gweithio gyda thenantiaid i sicrhau eu bod yn derbyn unrhyw gymorth ariannol ychwanegol neu gyllid y mae ganddynt hawl iddo.

Gall y cynghorwyr hyn esbonio mwy am fudd-daliadau – tebyg i’r Credyd Cynhwysol, Lwfans Byw i’r Anabl a Chredydau Pensiwn - a helpu tenantiaid gyda phrosesau gwneud cais a all fod yn dryslyd ac a all atal pobl rhag hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo.

Dengys ein adroddiad ymchwil Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd y gwnaeth 14 cymdeithas tai helpu tenantiaid i dderbyn dros £9 miliwn mewn incwm ychwanegol yn chwe mis cyntaf y llynedd.

Ar gyfartaledd, fe wnaethant helpu i uchafu incwm tenantiaid unigol gan dros £1,000 yn ystod y cyfnod hwn, gan wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau bob dydd pobl.

Mae Melin wedi uchafu incwm tenantiaid gan £10m dros y 10 mlynedd ddiwethaf, yn cynnwys £1.4m yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf drwy gymorth dyled, cymorth ynni, ceisiadau grant a chymorth i hawlio budd-daliadau.

Maent hefyd yn darparu mwy na £1.3 miliwn mewn cyllid caledi i denantiaid yn y flwyddyn ariannol gyfredol, gyda 86% o gymdeithasau tai yn cynnig y cymorth hwn.

Mae timau hefyd ar gael i gyfeirio eu tenantiaid at gyngor ar ddyledion, hyrwyddo lles ariannol a sgiliau trefnu arian. Dengys ein hymchwil y cafodd 14,583 o denantiaid eu cefnogi gan eu cymdeithas tai rhwng Ionawr a Mehefin 2023. Mae hyn yn 729 o denantiaid ar gyfartaledd ar gyfer pob cymdeithas tai.

Rhoddodd Tai Calon gymorth a newidiodd fywyd tenant mewn cyfnod o angen. Yn dilyn damwain drasig, pan gafodd ei blentyn (oedd yn oedolyn) a dau o’i wyrion eu lladd, bu’n byw gyda chyfaill. Cafodd ddwy wythnos yn unig i ganfod llety arall ac nid oedd ganddo gyfrif banc na dull adnabod ar gyfer agor un.

Fe wnaeth Gweithwyr Cymorth Lifft Tai Calon helpu drwy wneud cais am dystysgrif geni a sicrhau fflat yn un o gynlluniau gwarchod Tai Calon. Fe wnaethant hefyd gofrestru’r tenant newydd gyda banc a meddygfa a defnyddio cronfa galedi Tai Calon i gael help gyda dillad gwely, llestri, sosbenni ac offer coginio, a bwyd.

Gwnaethant gais llwyddiannus am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor a Thaliad Annibyniaeth Personol. Fel canlyniad roedd gan y tenant £1,252 y mis yn ychwanegol, a thaliad unigol o £2,742.

Meddai, “Nid oes neb erioed wedi fy helpu na gwneud unrhyw beth tebyg i hyn i mi o’r blaen. Diolch gymaint i chi. Rwyf wrth fy modd gyda chartref, fedra’i ddim credu mai fy lle i yw e.”

Er mwyn sicrhau fod tenantiaid yn cael y cymorth brys maent ei angen, rydym wedi ymateb i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a galw arnynt i barhau i gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw drwy ddiogelu cronfeydd argyfwng presennol – yn cynnwys y Grant Atal Digartrefedd, Taliadau Tai ar Ddisgresiwn a Chronfeydd Cymorth ar Ddisgresiwn.

Rydym hefyd yn rhoi sylw i bwysigrwydd parhau i gyllido cynlluniau hanfodol sy’n targedu tlodi tanwydd a bwyd ac yn cefnogi cyfraddau uwch o ddefnydd budd-daliadau.

Galwn hefyd ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i adolygu a chynyddu Credyd Cynhwysol i sicrhau fod yr isafswm lefel cymorth yn gwarantu y gall pobl dalu am hanfodion ar gyfnod anodd. Mae hyn yn gydnaws gyda galwadau Sefydliad Joseph Rowntree ac Ymddiriedolaeth Trussell am Warant Hanfodion.

Mae tenantiaid cymdeithasau tai yn parhau i fod ymysg y rhai y mae’r argyfwng costau byw yn taro waethaf arnynt, ac maent nawr angen cymorth ar frys i sicrhau nad ydynt yn parhau i wynebu canlyniadau pwysau ariannol parhaus.