Tai Calon yn rhoi mynediad i ddiet gytbwys ac iach wrth i gostau bwyd gynyddu
Gan yr amcangyfrifir fod bwydydd iach deirgwaith yn ddrutach fesul calori na bwydydd llai maethlon, ni fu cael cefnogaeth i fwyta diet gytbwys erioed yn bwysicach.
Yn ôl ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae costau bwyd wedi cynyddu gan 14% yn y flwyddyn hyd mis Mehefin, gyda’r Sefydliad Bwyd yn dweud y byddai’n rhaid i un ym mhob pump aelwyd wario bron hanner eu hincwm dros ben ar fwyd i gyflawni’r ddiet iach a argymhellir gan y llywodraeth.
Ymysg y rhai y mae’r cynnydd enfawr mewn costau wedi effeithio’n anghymesur arnynt yw pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol, yn cynnwys cartrefi cymdeithasau tai.
Ar draws Cymru, mae cymdeithasau tai yn gweithio gyda chymunedau i roi mynediad i opsiynau bwyd iach a chynaliadwy a chefnogi’r rhai sydd mewn mwy o risg o ansicrwydd bwyd.
Mae cynlluniau tebyg i Bartneriaeth Bwyd Blaenau Gwent, a sefydlwyd gan Chris Nottingham, cydlynydd prosiect cymdeithas tai Tai Calon, yn helpu preswylwyr i barhau i fwynhau diet gytbwys a buddiol er y cynnydd mewn costau bwyd.
Mae’r cynllun yn cefnogi unigolion a sefydliadau i hyrwyddo dewisiadau bwyd iach, cynaliadwy a theg. Mae’n goruchwylio amrywiaeth o gynlluniau ar draws y sir, sy’n helpu cymunedau i gael mynediad i brydau iach, cefnogi preswylwyr i dyfu eu bwyd eu hunain, ac yn cymell pobl i ddysgu sut i baratoi a choginio prydau iach ar gyfer teuluoedd cyfan.
Darllenwch ragor o flogiau gan CHC yma:
Dywedodd Chris: “Gyda help gan y gymuned leol, mae Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent yn dechrau mudiad bwyd da. Drwy’r bartneriaeth, rwy’n gobeithio rhoi gwell mynediad i fwyd lleol, fforddiadwy fydd yn ei dro yn gostwng ein heffaith ar y blaned.”
Mae ei gynlluniau allweddol yn cynnwys y clwb coginio’n araf, a gyllidir gan y bwrdd iechyd lleol, sy’n anelu annog y sawl sy’n cymryd rhan i greu rysetiau iach ac effeithiol o ran amser ar gyfer eu teuluoedd. Mae’r clwb chwech wythnos yn awr yn gwasanaethu 15 aelwyd a hyd at 50 o bobl.
Mae hefyd yn rhedeg prosiect tyfu cymunedol Pentref Tyleri, sy’n anelu i annog adfywio cymunedol yng Nghwm Tyleri ac yn cefnogi rhannu ffrwythau a llysiau cartref ac yn cynnig cynnyrch lleol ar brisiau fforddiadwy ar gyfer y gymuned. Mae’r caffe ar y safle, Caffi Tyleri, hefyd yn cynnig cawl am ddim bob dydd Gwener ar gyfer rhai sy’n cael anawsterau gyda chostau byw.
Mae cynlluniau eraill gan y bartneriaeth yn cynnwys prosiect Coetiroedd Sirhywi, sy’n defnyddio llysiau a gaiff eu tyfu ar y safle i gynnal cwrs coginio ar gyllideb a gwneud sudd afal yng Nghoetiroedd a Gerddi Cymunedol Rhiw Sirhywi, a ddefnyddir gan ysgolion a grwpiau lleol.
Cafodd Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent ei chefnogi gan strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru, sy’n anelu i atal a gostwng gordewdra yng Nghymru.
Mae ein Hyb Costau Byw hefyd yn rhoi gwybodaeth ar ansicrwydd bwyd ac yn edrych beth mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn ei wneud i gefnogi pobl sy’n byw yn eu cartrefi.
Mae mwy o wybodaeth am Bartneriaeth Bwyd Blaenau Gwent ar gael yma.
Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â media@chcymru.org.uk