RLH Architectural
Arfer pensaernïol amlddisgyblaethol
Gwasanaethau
Mae gennym gyfres lawn o wasanaethau pensaernïol, o RIBA cam 1 (cynlluniau dichonolrwydd dechreuol) hyd at RIBA Cam 3 (Cyflwyniadau Cynllunio Llawn).
Rydym wedyn yn gweithio gyda Contractwyr drwy RIBA Cam 4 i wneud y dyluniad technegol llawn, yna ymlaen i RIBA Cam 5 (Adeiladu), lle cefnogwn y contractwr drwy ateb ymholiadau safle, gwirio dyluniadau trydydd parti ac yn y blaen, ac wedyn ymlaen i Cam 6, sy’n cynnwys trosglwyddo a darpariaeth gwybodaeth ‘Fel yr Adeiladwyd’ ar gyfer y cleient gymdeithas tai a ffeil Iechyd a Diogelwch y contractwr.
Buddion
Ar ôl gweithio gyda llawer o LCC ar draws Cymru am y 15 mlynedd ddiwethaf, credwn fod gennym ddealltwriaeth lwyr o’r hyn sydd ei angen i sicrhau’r cartrefi y mae cymaint o’u hangen.
O waith dichonoldeb dechreuol ar safleoedd, edrych ar y gwahanol gyfyngiadau, hyd at gynllunio a chymeradwyaeth dechnegol Llywodraeth Cymru, dylunio technegol ac ymlaen i adeiladu, mae’r holl alluoedd gennym o fewn ein cwmni i wneud y broses hon mor llyfn ag sydd modd.
Credwn y gallwn helpu i newid y ffordd y caiff tai fforddiadwy eu cyflenwi, o ‘lwybr cyflym’ drwy’r prosesau cynllunio hyd at adeiladu ymaith o’r safle a dulliau modern o adeiladu, gan helpu i gyflenwi’r cynlluniau yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl.
Edrychwn ymlaen yn optimistig iawn y gallwn helpu i wneud gwasanaeth parhaus ar gyfer y sector ledled Cymru.
Canfyddwch pam y penderfynodd RLH Architectural ddod yn un o aelodau partner masnachol CHC yn y blog yma.
Siaradwch i Nick Cox, Cyfarwyddwr Masnachol
design@rlharchitectural.com
Other Commercial Members
Barcud Shared Services
Siaradwch i: Nigel Ireland, Prif Weithredwyr
Gallagher
Mae Gallagher yn gynghorydd arbenigol sy'n darparu gwasanaethau risg, yswiriant ac ymgynghori.
Lovell
Siaradwch i: Gemma Clisett, Cyfarwyddwr partneriaethau rhanbarthol
Quantum Advisory
Siaradwch i: Stuart Price, Partner ac actiwari