Jump to content

16 Tachwedd 2022

Sut mae cymdeithasau tai yn cadw rhenti yn fforddiadwy ar gyfer tenantiaid

Sut mae cymdeithasau tai yn cadw rhenti yn fforddiadwy ar gyfer tenantiaid

Ar gyfer beth mae rhent?

Mae gosod rhenti fforddiadwy yn un o benderfyniadau pwysicaf cymdeithasau tai bob blwyddyn. Mae wrth galon eu cenhadaeth fel cyrff dim er elw i ddarparu cartrefi a lliniaru tlodi. Mae’n benderfyniad sy’n ofalus wrth gydbwyso fforddiadwyedd ar gyfer tenantiaid unigol gyda buddsoddi yn y cartrefi a gwasanaethau craidd ansawdd uchel y maent yn dibynnu arnynt.

Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn berchen ar ac yn rheoli bron 170,000 o gartrefi, ac mae rhent yn ffurfio tua tri chwarter eu holl incwm. Caiff mwyafrif yr incwm ei wario ar reoli, cynnal a chadw a gwella cartrefi presennol. Mae hyn yn cynnwys pethau fel atgyweiriadau a chynnal a chadw o ddydd i ddydd, i ddiweddaru ceginau ac ystafelloedd ymolchi, i ddarparu cyngor ariannol a chymorth i bobl gynnal eu tenantiaethau.

Ynghyd â buddsoddiad mewn eiddo presennol, adeiladu cartrefi newydd yw’r eitem fwyaf wedyn o wariant ar gyfer cymdeithasau tai. Yn 2021/22, gwnaeth cymdeithasau tai Cymru y buddsoddiad uchaf erioed o bron £455m mewn mynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Nghymru.

Pwy sy’n penderfynu faint yw’r cynnydd mewn?

Mae cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol yn gosod eu lefelau rhent bob blwyddyn yng nghyd-destun polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer rhenti tai cymdeithasol. Mae’r polisi yn nodi fod yn rhaid ystyried a dangos fforddiadwyedd wrth osod rhenti bob blwyddyn, ac mae angen i gymdeithasau tai ddangos i Lywodraeth Cymru a’r rheoleiddiwr tai cymdeithasol sut y gwnaethant hyn. Mae’r polisi hefyd yn gosod rhent fforddiadwy yng nghyd-destun polisïau tai ehangach, yn cynnwys ansawdd cartrefi, effeithiolrwydd ynni, boddhad tenantiaid a chynnal tenantiaethau, gan gydnabod fod incwm rhent yn darparu’r cartrefi a gwasanaethau ansawdd uchel y mae tenantiaid yn dibynnu arnynt.

Mae’r polisi, sydd i redeg rhwng 2020/21 a 2024/25, yn dweud na ellir cynyddu’r cyfanswm rhent y mae landlord cymdeithasol yn ei godi gan fwy na chyfradd chwyddiant CPI + 1% bob blwyddyn, cyhyd nad yw’r CPI tu allan i’r ystod 0-3%. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf - gan fod CPI wedi bod yn llawer uwch na’r terfynau gwreiddiol a nodwyd yn y polisi rhent – bu’n rhaid i Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd, gymryd penderfyniad ar wahân ar gynnydd rhent, un sy’n cadw cydbwysedd fel y gellir codi rhent y gall tenantiaid ei fforddio ac y gall cymdeithasau tai nid er elw barhau’n hyfyw, darparu gwasanaethau ansawdd da ac adeiladu cartrefi newydd. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 y terfyn oedd 3.1%, cyfradd CPI bryd hynny.

Nenfwd ac nid targed yw’r cyfanswm terfyn rhent a osodir gan Lywodraeth Cymru Nid yw’n gynnydd unffurf ar draws pob rhent cymdeithasol. Mae cymdeithasau tai yn ymroddedig i sicrhau fod rhenti yn fforddiadwy ar gyfer eu tenantiaid, a defnyddiant hyblygrwydd o fewn eu cyllidebau i sicrhau hyn. Dan y polisi rhent gall rhenti unigol gael eu gostwng neu eu rhewi, neu gallant godi gan hyd at £2 ychwanegol dros CPI + 1% lle gellir dangos fod hyn yn fforddiadwy i denantiaid, ond hyd yn oed wedyn ni all y cyfanswm cynnydd rhent ar draws pob cartref l fod yn fwy na CPI +1%. Y llynedd defnyddiodd 74% o gymdeithasau tai yr hyblygrwydd yn y setliad i rewi neu ostwng rhenti unigol.

Sut mae cymdeithasau tai yn gosod rhent?

O fewn paramedrau polisi rhent Llywodraeth Cymru – neu mewn blynyddoedd diweddar y penderfyniad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd – mae cymdeithasau tai yn gwneud llawer o waith manwl i ddeall fforddiadwyedd ar gyfer eu tenantiaid, yn cynnwys casglu data a siarad yn uniongyrchol gyda thenantiaid. Mae hefyd angen iddynt ddeall y costau a gaiff eu nodi yn eu cynlluniau busnes, sy’n cynnwys rheoli, cynnal a chadw a gwella cartrefi a gwasanaethau presennol, yn ogystal â datblygu cartrefi newydd y mae cymaint o’u hangen. Mae byrddau cymdeithasau tai yn gweithio gydag uwch staff i ymchwilio’r dystiolaeth sydd ar gael a phenderfynu sut y bydd rhenti yn gostwng, rhewi neu godi ar draws yr holl gartrefi y maent yn berchen arnynt ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod.

Sut mae cymdeithasau tai yn gwneud yn siŵr fod y rhenti yn fforddiadwy?

Mae cymdeithasau tai wedi datblygu polisïau rhent lleol ac yn defnyddio amrywiaeth o offerynnau i sicrhau fod y rhent yn fforddiadwy ac y caiff ei osod mewn trafodaeth gyda thenantiaid. Mae’r offerynnau a’r dulliau gweithredu yn cynnwys:

  • ymgysylltu gyda thenantiaid a’u hadborth;
  • offerynnau data fforddiadwyedd, tebyg i offeryn CHC/Housemark;
  • modelau fforddiadwy, tebyg i fodel rhent byw Sefydliad Joseph Rowntree;
  • defnyddio setiau data tebyg i incwm lleol ASHE, meincnodi data OECD, lefelau rhent yn y sectorau rhent cymdeithasol phreifat, a chyfraddau lwfans tai lleol;
  • deall pwysau ariannol ehangach ar denantiaid yn cynnwys costau rhedeg tŷ a biliau cyfleustod, a thaliadau gwasanaeth;
  • hybu gwerth am arian i ostwng y pwysau ar incwm rhent.

Yn 2020 buom yn gweithio gyda’n haelodau a phartneriaid i ddatblygu set o egwyddorion fforddiadwyedd i lywio dulliau o osod rhent. Mae pob cymdeithas tai yng Nghymru yn awr wedi mabwysiadu’r egwyddorion fforddiadwyedd hyn, sy’n sylfaen i’w dull o osod rhent.

Egwyddorion fforddiadwyedd

Fforddiadwy: Byddwn yn ystyried cyfanswm costau rhentu cartrefi ac incwm i ddeall beth sy’n fforddiadwy ar gyfer ein tenantiaid, a sicrhau fod tenantiaid yn cael y cyfle mwyaf i gynnal eu tenantiaethau a ffynnu.

Cynaliadwy: Byddwn yn gosod rhenti sy’n ein galluogi i barhau i ddarparu cartrefi ansawdd uchel, diogel a chynnes ar gyfer y bobl sydd eu hangen yn y cymunedau a wasanaethwn.

Cynnwys: Byddwn yn cynnwys tenantiaid i ddatblygu ac adolygu ein dull gweithredu ar osod rhenti, a llywio ein penderfyniad ar renti.

Teg: Byddwn yn gweithio i sicrhau y caiff rhenti a chostau eraill eu gosod yn deg a bod ein cartrefi a’n gwasanaethau yn cynnig gwerth am arian.

Atebol: Byddwn yn agored, tryloyw ac atebol pan wnawn benderfyniadau ar renti.

Pa gymorth sydd ar gael os yw tenantiaid yn ei chael yn anodd talu eu rhent?

Mae cymdeithasau tai yn bodoli i gefnogi eu tenantiaid ac mae ganddynt dimau arbenigol a gwasanaethau ar gael i sicrhau y gall tenantiaid sy’n wynebu anawsterau ariannol gael yr help maent ei angen. Y neges y mae cymdeithasau tai yn ei rhannu gyda thenantiaid sydd mewn trafferthion yw bob amser ‘siaradwch gyda ni, gallwn eich helpu’. Mae cymdeithasau tai wedi ymrwymo na chaiff neb eu troi allan o’u cartrefi oherwydd caledi ariannol, lle mae’r tenant yn ymgysylltu gyda’u landlordiaid.

Mae’r help sydd ar gael i denantiaid yn cynnwys:

  • Cefnogaeth cynyddu incwm – mae hyn yn cynnwys cymorth gyda cheisiadau i’r gronfa cymorth dewisol, defnyddio’r system budd-daliadau, ceisio cymorth am gostau ynni, cyflenwi talebau banciau bwyd a chefnogaeth ehangach.
  • Cymorth cyflogadwyedd – mae hyn yn cynnwys dillad gwaith, hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer ysgrifennu CV a chwilio am swydd.
  • Cadw biliau ynni yn isel – mae hyn yn cynnwys clybiau tanwydd sy’n galluogi cymunedau i brynu olew ar y cyd, gan ostwng y gost i bob tenant unigol, wardeiniaid ynni a chyfeirio at gyngor a chymorth;
  • Cyllid caledi – mae cymdeithasau tai wedi gwneud cyllid ar gael i gefnogi tenantiaid yn uniongyrchol. Mae 13 cymdeithas tai wedi darparu £525,000 o gyllid eleni yn unig.

A gaiff tenantiaid eu troi allan o’u cartrefi os na fedrant dalu eu rhent?

Mae cymdeithasau tai wedi ymrwymo na chaiff neb eu troi allan o’u cartrefi oherwydd caledi ariannol, lle mae’r tenant yn ymgysylltu gyda’u landlord. Mae rôl cymdeithasau tai yn mynd lawer ymhellach na brics a morter, i helpu tenantiaid i adeiladu cartref a’u cefnogi i fyw’n dda. Mae cymdeithasau tai yn bodoli am ddiben cymdeithasol ac maent yn ymroddedig i gefnogi llesiant a chydnerthedd ariannol tenantiaid.

Fel arfer dim ond os nad oes dewis arall y rhoddir hysbysiad troi allan (a elwir hefyd yn ‘hysbysiad ceisio meddiant’), er enghraifft mewn achosion lle bu ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol sy’n effeithio ar y gymuned, a hyd yn oed wedyn dim ond ar ôl i’r gymdeithas tai weithio gyda a chefnogi’r tenant(iaid) i ddatrys y mater y rhoddir hysbysiad. Mae gan gymdeithasau tai gyfrifoldeb i’w holl denantiaid, yn cynnwys cymdogion y mae ymddygiad o’r fath yn effeithio arnynt.

Gall fod hefyd nad yw tenantiaeth yn gynaliadwy lle mae gan denant ôl-ddyled rhent ddifrifol. Ond mae hyn yn beth prin iawn a dim ond pan nad yw’r tenant wedi cysylltu â’r cymorth a gynigiwyd dro ar ôl tro gan eu cymdeithas tai. Y neges y mae cymdeithiau tai yn ei rhannu gyda thenantiaid sy’n cael trafferthion yw bob amser, ‘siaradwch gyda chi, gallwn eich helpu’.

Os ydych yn denant cymdeithas tai sy’n bryderus am neu sy’n cael trafferth gyda rhent a chostau rhedeg tŷ, cysylltwch â’ch cymdeithas tai yn uniongyrchol. Mae tîm arbenigol, lleol ar gael i’ch cefnogi.