Jump to content

Quantum Advisory

Ymgynghoriaeth gwasanaethau ariannol annibynnol sy’n darparu gwasanaethau pensiwn a budd cyflogeion i gyflogwyr a’u staff

Gwasanaethau

Mae Quantum Advisory yn cynorthwyo cymdeithasau tai gyda’u trefniadau pensiwn a budd cyflogeion. Rydym yn dylunio, cynnal ac adolygu cynlluniau pensiwn a threfniadau budd cyflogeion i sicrhau eu bod yn gweithio’n effeithiol. Rhoddwn gyngor ar gynlluniau pensiwn sefyll eu hunain yn ogystal â chynlluniau aml-gyflogwr fel y Cynllun Pensiwn Tai Cymdeithasol (SHPS), y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) a threfniadau pensiwn cyfraniad diffiniedig personol grŵp. Yng nghyswllt trefniadau budd cyflogeion rhoddwn gyngor ar farwolaeth mewn gwasanaeth, afiechyd a threfniadau meddygol preifat.

Mae ein tîm arbenigwyr wedi helpu llawer o gyflogeion i ostwng cost, neu adael yn llwyr, â’u LGPS neu drefniadau pensiwn eraill a sefydlu pecynnau budd amgen ar gyfer cyflogeion. Mae angen cyfleu unrhyw newidiadau mewn buddion yn glir i gyflogeion fel y cânt eu deall. Cynorthwywn gyflogwyr drwy lunio dogfennau ymgynghori cyflogeion, darparu cyfriflenni gyda rhagamcaniadau pensiwn penodol cyflogeion, gan ddangos sut bydd y newidiadau yn effeithio arnynt, rhoi cyflwyniadau cyflogeion grŵp a gefnogir gyda sesiynau un-i-un gyda chyflogeion.

Rydym hefyd yn helpu cyflogwyr i sefydlu trefniadau cyfnewid cyflog lle gall cyflogwyr a’u cyflogeion fwynhau arbedion sylweddol mewn yswiriant gwladol.

Ymfalchïwn mewn perthynas agos gyda’n cleientiaid a’u hannog i ddefnyddio cymaint neu cyn lleied o’n harbenigedd ag y teimlant fod eu hangen.

Buddion

Rydym yn ymgynghoriaeth gwasanaethau ariannol annibynnol sy’n darparu gwasanaethau pensiwn a budd cyflogeion i gyflogwyr a’u staff. Mae ein statws annibynnol yn golygu y gallwn ddilyn nodau heb ymyrraeth gan gyfranddalwyr allanol. Mae hyn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar wasanaethau cleientiaid, a rydym yn angerddol am hynny ac yn rhagori ynddo.

Bydd dod yn bartner masnachol i CHC yn hybu ein perthynas gyda’r sector tai yng Nghymru ac mae hynny’n bwysig iawn i ni. Bydd bod yn bartner masnachol yn ein galluogi i drosglwyddo ein gwybodaeth, arbenigedd a phrofiad i aelodau CHC fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus mewn pensiynau, buddion i gyflogeion a buddsoddiadau.

Gan ddefnyddio ein harbenigedd, rydym yn darparu gwasanaeth wedi ei bersonoli i gyflogwyr gan mai ein profiad ni yw nad oes dau gyflogwr yr un fath a chaiff ein cyngor ei gyflwyno mewn ffordd glir a manwl. Ein nod yw sicrhau y gall cyflogwyr ddarparu pensiynau a buddion i gyflogeion sy’n fforddiadwy iddyn nhw a’u staff, a chaiff y buddion eu gwerthfawrogi gan staff, ac mae hynny yn ei dro yn cynorthwyo gyda chadw staff a denu staff newydd.

Canfyddwch pam y penderfynodd Quantum Advisory ddod yn un o aelodau partner masnachol CHC yn y blog yma.

Quantum Advisory

Siaradwch i: Stuart Price, Partner ac actiwari

07747 712328 quantumadvisory.co.uk/
stuart.price@qallp.co.uk

Other Commercial Members

Barcud Shared Services

Barcud Shared Services

Siaradwch i: Nigel Ireland, Prif Weithredwyr

Gallagher

Gallagher

Mae Gallagher yn gynghorydd arbenigol sy'n darparu gwasanaethau risg, yswiriant ac ymgynghori.

Lovell

Lovell

Siaradwch i: Gemma Clisett, Cyfarwyddwr partneriaethau rhanbarthol

RLH Architectural

RLH Architectural

Siaradwch i Nick Cox, Cyfarwyddwr Masnachol