Jump to content

08 Mai 2024

Ateb her digartrefedd: ein hymateb i bapur gwyn Llywodraeth Cymru

Ateb her digartrefedd: ein hymateb i bapur gwyn Llywodraeth Cymru

Gellir olrhain argyfwng tai y Deyrnas Unedig dros ddegawdau. Fodd bynnag, mewn blynyddoedd ddiweddar, yn dilyn pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw, gwelsom gynnydd pryderus a bu mwy o bobl yn ei chael yn anodd iawn i ganfod cartref gweddus am bris fforddiadwy.

Yng Nghymru, mae’r sector tai cymdeithasol yn gweithio’n galed i chwarae ei ran wrth ddiwallu’r angen yma am dai, ond mae’n amlwg nad oes gennym ddigon o gartrefi fforddiadwy ar gyfer pawb sydd eu hangen. Mae’r nifer o bobl mewn llety dros dro yng Nghymru yn parhau i gynyddu, ac mae’r argyfwng yn dyfnhau.

Rydym ni a’r cymdeithasau tai a gynrychiolwn yn croesawu papur gwyn Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd. Er mai Llywodraeth Cymru oedd awdur y papur, cafodd ei seilio i raddau helaeth ar adroddiad y Panel Adolygu Arbenigol, yr oeddem yn falch i gyfrannu ato ar ran ein haelodau.

Roedd y Panel Adolygu Arbenigol yn ofod ar gyfer trafodaeth gadarn ac onest – yn cynnwys rhwng pobl gyda phrofiad bywyd, darparwyr tai cymdeithasol, gwasanaethau digartrefedd, y cyhoedd a’r trydydd sector – wrth i ni weithio ar y cyd tuag at y nod o rannwn o roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Drwy ein cyfraniad i’r Panel Adolygu Arbenigol, a’n hymateb ysgrifenedig i’r Papur Gwyn, rydym wedi profi syniadau a chynigion ar nod glir: ein bod yn ceisio llwybr cynaliadwy, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Mewn geiriau syml, mae hyn yn golygu cael y cartref cywir, yn y lle cywir, gyda’r cymorth cywir cyhyd ag sydd angen.

Swnio’n syml? Fe ddylai. Ond bydd realaeth cyflawni’r weledigaeth yn parhau i fod yn heriol, ac mae llawer o gwestiynau yn dal i fod i ni ymaflyd â nhw.

Datrysiadau sy’n gweithio i bobl

Mae deddfwriaeth yn un o’r dulliau sydd ar gael i ni ar y cyd i roi diwedd ar ddigartrefedd. Ac nid yw’n gweithio ar ben ei hunan.

Rhaid cefnogi deddfwriaeth gydag adnoddau digonol fel y gellir rhoi diwygiadau ar waith. I sicrhau fod y syniadau hyn yn llwyddo, rydym angen mwy o gartrefi fforddiadwy, y cymorth cywir i bobl i’w galluogi i wneud eu tŷ a’u cymuned yn gartref, a pherthynas glir rhwng partneriaid i wneud yn siŵr ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un nod a’n bod yn rhannu’r nod honno.

Yn ymarferol, bydd hyn yn galw am fuddsoddiad parhaus mewn cyflenwi cartrefi cymdeithasol newydd, setliad cyllid cynaliadwy ar gyfer y Grant Cymorth Tai a phartneriaethau lleol gwirioneddol gryf – gyda phawb yn tynnu yn yr un cyfeiriad – i sicrhau cyfatebiaeth gynaliadwy rhwng unigolion a chartrefi.

Rydym hefyd angen data llawer gwell i sicrhau fod polisi a phenderfyniadau deddfwriaethol yn wybodus, seiliedig ar dystiolaeth ac y gallwn farnu effeithlonrwydd unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol.

Swnio’n syml? Fe ddylai.

Ond bydd realaeth cyflawni’r weledigaeth yn parhau i fod yn heriol, ac mae llawer o
gwestiynau yn dal i fod i ni ymaflyd â nhw.

Diwygio dyraniadau

Er y cytunwn gyda mwyafrif helaeth y cynigion y papur gwyn – ac wedi gwneud awgrymiadau ar sut y gallwn gyda’n gilydd wneud llwyddiant o’r newidiadau hyn – mae un eithriad amlwg. Ni chredwn y bydd y diwygiadau a gynigir ar gyfer dyraniadau yn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir, a chredwn bod risg sylweddol o ganlyniadau anfwriadol. Gallwch ddarllen mwy am y rheiny yn ein hymateb llawn.

Dengys profiad yr Alban o’r diwygiadau a gynigir, hyd yn oed gyda deddfwriaeth yn ei lle, bod yr amrywiad yn nifer y tai cymdeithasol a roddir i bobl sy’n ddigartref ar hyn yn parhau –sy’n awgrymu na fedrir datrys y mater dan sylw neu rwymedigaeth penodol. Mae angen rhywbeth arall i wneud y newid.

Mae gennym ni yng Nghymru gyfle i ddysgu o brofiad yr Alban, yn cynnwys argymhellion yr adolygiad i ganolbwyntio sylw ar gryfhau partneriaethau a datblygu polisïau dyrannu cyffredin a datblygu datrysiad seiliedig ar dystiolaeth fydd yn wirioneddol ddatrys y broblem.

Gan weithio gyda’n haelodau rydym wedi dechrau edrych yn fanwl ar arfer dyraniadau yng Nghymru i ddeall y ffactorau sy’n effeithio ar benderfyniadau ar ddyraniadau ac i wella ein gallu ar y cyd i wneud penderfyniadau polisi seiliedig ar dystiolaeth.

Gwerthfawrogwn faint yr her sy’n wynebu Llywodraeth Cymru wrth iddi geisio roi diwedd ar ddigartrefedd tra’n osgoi canlyniadau anfwriadol. Ond mae’n hanfodol ein bod yn deall ac yn defnyddio’r dulliau mwyaf addas sydd gennym ar y cyd i wireddu’r newidiadau i’r system digartrefedd rydym i gyd gymaint o eisiau ei weld.

Ac mae’r broses o weithredu unrhyw newidiadau yn y system cymorth digartrefedd mor bwysig â llunio’r ddeddfwriaeth ei hun. Mae’r pwysau ar wasanaethau digartrefedd a’r angen dybryd am fwy o dai cymdeithasol yn golygu, heb newid sylweddol yn y ddau faes yma, y bydd angen cyfnod gweithredu mewn camau a gyda chymorth ar y cynigion os ydynt i lwyddo unwaith y cânt eu hymestyn.

Fel partneriaid cyflenwi allweddol, mae cymdeithasau tai ynghyd ag awdurdodau lleol yn ymroddedig i chwarae eu rhan lawn drwy ddefnyddio eu gwybodaeth o fannau lleol a phrosesau i gefnogi gweithredu effeithlon a chyflwyno mewn camau.

Mae’r Papur Gwyn yn parhau trafodaeth bwysig, ac mae llawer o atebion yn parhau heb eu hateb, eto ni fu’r uchelgais i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru erioed yn fater o fwy o frys nac mor bwysig. Wrth ochr ein haelodau, rydym yn parhau’n ymroddedig i ateb yr her.