Jump to content

27 Chwefror 2024

Cyllideb derfynol 2024 Llywodraeth Cymru: yr hyn mae’n ei olygu ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru

Cyllideb derfynol 2024 Llywodraeth Cymru: yr hyn mae’n ei olygu ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru

Wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb derfynol ar gyfer 2024/25, mae tîm polisi Cartrefi Cymunedol Cymru yn dadansoddi’r pwyntiau allweddol fydd yn effeithio ar gymdeithasau tai a’r sector tai cymdeithasol ehangach yn y flwyddyn i ddod.

Er nad oes fawr o newid yng nghyllideb derfynol Llywodraeth Cymru o’i chymharu â’r gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2023, daeth heddiw â pheth newyddion cadarnhaol ar gyfer y sector rhent cymdeithasol.

Cynyddodd y gyllideb newid hinsawdd o £2.84bn a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft i £2.87bn – cyfanswm cynnydd o £24.86m, sy’n cynnwys:

  • £5m ychwanegol i’r Grant Tai Cymdeithasol ar ben y £365m a ddyrannwyd yn flaenorol yn y gyllideb ddrafft;
  • £5m ychwanegol ar gyfer llinell cyllideb Digartrefedd ac Atal, y mae’r Grant Cymorth Tai yn rhan ohoni; a
  • £14.43m arall i awdurdodau lleol drwy’r setliad Llywodraeth Leol.

Drwyddi draw, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu buddsoddiad cyfalaf mewn blaenoriaethau tai mewn cyfnod economaidd heriol yn dangos neges gryf a chlir ei bod yn ceisio cefnogi’r sector tai cymdeithasol i gyflenwi cartrefi cynnes, diogel a fforddiadwy yn nhymor hwn y Senedd. Fodd bynnag, rydym yn dal i fod angen eglurdeb ar feysydd allweddol i sicrhau y gall pobl Cymru gael mynediad i’r cartrefi fforddiadwy maent eu hangen.

Y cyflenwad o dai fforddiadwy

Mae cyfanswm buddsoddiad cyfalaf yn rhaglen Grant Tai Cymdeithasol bellach yn £370m ar gyfer 2024/25. Ar hyn o bryd mae cymdeithasau tai Cymru yn adeiladu 70% o dai cymdeithasol a bydd yr hwb cyllid yma yn eu cefnogi i barhau’r cynnydd hwn.

Er y croesewir y buddsoddiad ychwanegol hwn, byddwn yn parhau ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol arall i ddatblygu datrysiadau ymarferol i ddatgloi rhwystrau systemig sy’n atal datblygu.

Adeiladu cartrefi newydd yw datrysiad gorau oll i’r argyfwng tai ond mae’r systemau a strwythurau y mae’r holl adeiladwyr tai yn dibynnu arnynt yn oedi pobl a chymunedau rhag cael cartrefi newydd. Mae chwyddiant yn dal i effeithio ar ddeunyddiau a chadwyni cyflenwi,
gan ostwng yr hyn y gall grant y llywodraeth ei brynu; mae gostyngiad sgiliau yn parhau yn y gweithlu, system cynllunio dan bwysau enfawr a marchnad dir gystadleuol.

Cyhoeddodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Senedd Cymru yn ddiweddar y bydd yn cynnal ymchwiliad i’r cyflenwad o dai cymdeithasol. Ystyriwn fod hwn yn gam hollbwysig at ddarparu tai cymdeithasol hanfodol a chroesawn y cyfle i gyfrannu ein syniadau ar gyfer newid.

Digartrefedd a chymorth tai

Mae’r gyllideb derfynol yn cynnwys cynnydd a groesewir o £5m i linell cyllideb Cymorth ac Atal Digartrefedd (cyfanswm £219.91m) sy’n cynnwys y Grant Cymorth Tai.

Roeddem yn glir cyn y gwnaed y cyhoeddiad hwn, os na fyddem yn gweld cynnydd yn y setliad cyllid ar gyfer y Grant Cymorth Tai, na fyddai digon o gyllid i dalu’n deg i weithwyr rheng flaen ac y byddem yn debygol o golli gwasanaethau ar adeg pan na fu erioed fwy o’u hangen. Fel blaenoriaeth, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y caiff cymaint o gyllid ychwanegol ag sydd modd ei ddyrannu i’r Grant Cymorth Tai.

Yn y tymor hirach mae’n hollol hanfodol fod setliad cyllid cynaliadwy, aml-flwyddyn ar gyfer y Grant Cymorth Tai sy’n diogelu buddsoddiad yn y gwasanaethau hanfodol hyn a staff rheng-flaen.

Cymorth ariannol i aelwydydd

Nid oes unrhyw newid mewn llawer o’r ymrwymiadau hyn o’r gyllideb ddrafft, wrth i Lywodraeth Cymru geisio cynnal cymorth ar gyfer y rhai y mae’r argyfwng costau byw wedi taro arnynt:

  • cadwyd y Gronfa Cymorth Dewisol ar £38.5m;
  • cafodd y cymorth i wasanaethau cynghori a’r gyllideb ar gyfer y Gronfa Cynghori Sengl ei ddiogelu;
  • cadwyd y £35m cyllid ar gyfer y Rhaglen Tlodi Tanwydd; a
  • chadwyd £25m ar gyfer Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
  • Mae’r gyllideb hefyd yn adfer £5m o gyllid ar gyfer y Grant Plant a Chymunedau sy’n anelu i gefnogi plant difreintiedig a bregus.

    Diogelwch adeiladau

Ni fu unrhyw newid i’r gyllideb yn y maes yma (£165m ar gyfer 2024/25) o’r cyhoeddiad drafft, a welodd y gronfa diogelwch adeiladau yn cael eu hailbroffilio a rhyddhau £37m o gyfalaf mewn cyllid refeniw ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Datgarboneiddio

Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r £70m a neilltuwyd yn flaenorol ar gyfer y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn y gyllideb ddrafft. Mae Llywodraeth Cymru, ar wahân, wedi ymrwymo £18m ar gyfer gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer 2024/25.

Mae’r sector tai cymdeithasol yn dal i aros am benderfyniad ar y dull hirdymor o gyllido SATC 2023, fodd bynnag. Mae cymdeithasau tai eisoes yn chwarae eu rhan wrth helpu Cymru ei gyrraedd ei nod sero net. Ar draws y wlad maent wedi gweithredu datrysiadau blaengar i ddatgarboneiddio cartrefi sy’n gweithio i’w cymunedau – ond ni fyddant yn medru symud ymlaen ymhellach gyda hyn heb gael y dulliau a’r cyllid hanfodol.

Rydym angen datrysiad sector-cyfan sy’n adeiladu ar y gwaith a wnaeth cymdeithasau tai eisoes i ddatgarboneiddio’r cartrefi y maent yn eu rheoli, sy’n manteisio ar dechnoleg, sy’n datblygu cadwyn cyflenwi yng Nghymru ac yn rhoi hwb economaidd i’n cymunedau.

Darllenwch ein papur gwybodaeth llawn i aelodau i ganfod beth fydd Cartrefi Cymunedol Cymru yn ei wneud nesaf i sicrhau y caiff cymdeithasau tai a thenantiaid eu cefnogi’n llawn nawr ac am flynyddoedd lawer i ddod.