Jump to content

07 Chwefror 2024

Datganiad CHC: Mae’n hanfodol dod â’r argyfwng tai i ben ond rydym angen datrysiadau tymor byr hefyd

Datganiad CHC: Mae’n hanfodol dod â’r argyfwng tai i ben ond rydym angen datrysiadau tymor byr hefyd

Cyhoeddwyd y datganiad hwn ar 7 Chwefror 2024.

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher 7 Chwefror), ar fater cyflenwad tai.

Wrth siarad cyn y digwyddiad dywedodd Elly Lock, pennaeth polisi a materion allanol CHC:

“Gall cartref da helpu pobl i fyw bywydau mwy iach, hapus a ffyniannus ond mae’n haws dweud na gwneud hynny pan ydym yng nghanol argyfwng tai.

“Adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd yw’r datrysiad gorau oll i’r argyfwng. Croesawn ddadl heddiw ar adeiladu tai a sut i fynd ymhellach i ddarparu’r cartrefi fforddiadwy mae pobl yng Nghymru eu hangen – ar amser pan fo dros 11,000 o bobl yn byw mewn llety dros dro, a llawer arall yn dal i wynebu straen dyddiol am eu costau tai a chostau byw.

“Mae buddsoddiad uchaf erioed Llywodraeth Cymru yn y grant tai cymdeithasol yn wirioneddol gadarnhaol. Mae cymdeithasau tai yn chwarae eu rhan, gan adeiladu hyd at 80% o’r holl dai cymdeithasol newydd yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

“Ond mae’r systemau a strwythurau y mae’r holl adeiladwyr tai yn dibynnu arnynt yn golygu oedi wrth i bobl a chymunedau gael cartrefi newydd. Mae chwyddiant yn dal i effeithio ar ddeunyddiau a chadwyni cyflenwi, gan ostwng yr hyn y gall grant y llywodraeth ei brynu; mae llai o sgiliau yn parhau i fod yn y gweithlu, systemau cynllunio dan bwysau enfawr a marchnad dir gystadleuol.

“Yn y tymor byr, mae buddsoddi i ddod â chartrefi newydd ymlaen yn gyflym drwy gaffael a manteisio ar ddulliau modern o adeiladu yn cynnig cyfle sylweddol. Bu prosiectau blaengar tebyg i’r 12 cartref modiwlar newydd a ddarparwyd ar hen faes parcio yng Nghasnewydd gan Linc mewn partneriaeth gyda’r cyngor lleol a Zed Pods yn hanfodol wrth ddarparu lleoedd i bobl fyw mewn ffordd sy’n ateb anghenion cymunedau lleol yn uniongyrchol.

“Yn y tymor canol a’r tymor byr, rydym angen cefnogaeth i wella problemau systemig am alluedd awdurdodau lleol a mynediad i dir er mwyn symud pethau ymlaen o ddifri.

“Mae’n hanfodol dod â’r argyfwng tai i ben. Mae potensial enfawr i gymdeithasau tai ac eraill i adeiladu mwy o gartrefi, a hefyd y cartrefi cywir yn y lleoedd cywir ar gyfer pobl Cymru nac am lawer mwy o flynyddoedd i ddod. Rydym angen ymroddiad i newid y ffordd mae pethau’n gweithio i wneud i hyn ddigwydd.”

For press and media queries, please email Ruth Dawson, head of communications - ruth-dawson@chcymru.org.uk.