Jump to content

15 Rhagfyr 2023

Cartrefi Cymunedol Cymru yn ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft 2024-25 Llywodraeth Cymru

Cartrefi Cymunedol Cymru yn ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft 2024-25 Llywodraeth Cymru

Mae Cymru – fel gweddill y Deyrnas Unedig – yn wynebu argyfwng tai.

Gwelwn nifer cynyddol o aelwydydd mewn llety dros dro, tra bod rhestri aros am dai cymdeithasol yn cynyddu. Mae cyfraddau morgeisiau yn dal yn uchel ar gyfer perchen-feddianwyr hefyd, ac mae toreth o adroddiadau yn y cyfryngau am bobl sy’n cael anawsterau dybryd i ganfod cartrefi i’w rhentu.

Hyd yn oed yn y sefyllfa yma, mae Cymru wedi parhau i roi blaenoriaeth i adeiladu cartrefi cymdeithasol carbon isel yn gyflym ac yn niferus – ond nid adeiladu cartrefi yw’r unig ddatrysiad i ddod allan o’r argyfwng a sicrhau nad ydym yn syrthio yn ôl iddo.

Yn 2023-24 dyrannodd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru gyfanswm o £1bn ar gyfer blaenoriaethau tai, a alluogodd gymdeithasau tai i barhau i adeiladu’r cartrefi fforddiadwy mae ein gwlad eu hangen. Mewn gwirionedd, ar hyn o bryd maent yn adeiladu 80% o’r cartrefi fforddiadwy yng Nghymru. Roedd y cyllid hwn hefyd yn golygu y gallent fuddsoddi mewn cartrefi presennol a rhoi cymorth hanfodol i’w tenantiaid.

Yn ein hymateb i alwad y Pwyllgor Cyllid am wybodaeth cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2024/25, roeddem yn glir er bod yn rhaid gwarchod y lefel flaenorol o fuddsoddiad ac y dylai’r gyllideb ymateb i gynnydd mewn chwyddiant, mae ein sector hefyd angen pragmatiaeth a sicrwydd o’r newydd. I fynd allan o’r argyfwng, rydym angen cynlluniau hirdymor a hyblygrwydd cyllid i sicrhau y gall cymdeithasau tai ddarparu cymaint o werth ag sy’n bosibl ar gyfer pobl Cymru.

Mae tair blaenoriaeth glir ar gyfer cymdeithasau tai:

Rhaglen fuddsoddi hirdymor fydd yn cefnogi darparu cartrefi effeithol a fforddiadwy yng Nghymru

Mae buddsoddi mewn cartrefi newydd a phresennol yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai, gostwng allyriadau carbon a chefnogi’r economi yng Nghymru drwy greu swyddi a chadwyni cyflenwi. Er y buddsoddiad cyfalaf mwyaf erioed gan Lywodraeth Cymru yn nwy flynedd gyntaf tymor hwn y Senedd, fodd bynnag, ni fu adeiladu cartrefi newydd erioed yn anos. Mae rhwystrau sy’n cynnwys costau deunyddiau, pryderon amgylcheddol a diffyg sgiliau lleol yn dal i arafu ac atal datblygu ar draws y wlad, ac mae angen datrys hyn fel y gallwn barhau i sicrhau cynnydd.

Ond os nad yw ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn mynd law yn llaw gyda’n hymagwedd at drin yr argyfyngau hinsawdd a natur byddwn wedi ein dal mewn cylch o fesurau tymor byr. Rydym angen rhaglen fuddsoddi hirdymor i’n cefnogi i adeiladu cartrefi newydd carbon isel, i ddatgarboneiddio cartrefi presennol a darparu’r seilwaith rydym ei angen ar gyfer rheoli amgylcheddol a maethion. I wneud hyn, mae’n rhaid gwarchod cyllid cyfalaf ar gyfer cartrefi newydd carbon isel a fforddiadwy ar rent cymdeithasol drwy’r Grant Tai Cymdeithasol yng nghyllideb 2024/25.

Yn ychwanegol, mae Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 yn galw am welliannau effeithiolrwydd ynni mwy uchelgeisiol yn ogystal â gofynion cynyddol am loriau, bioamrywiaeth a thlodi dŵr. I raddau helaeth mae hynny heb ei gyllido ar hyn o bryd. Mae cymdeithasau tai eisiau cyrraedd y safon ond ni ellir cyflawni’r gofynion heb fuddsoddiad fydd yn ei dro yn rhoi hwb economaidd i’n cymunedau yn ogystal â chartrefi cynhesach a mwy effeithiol o ran ynni ar gyfer tenantiaid.

Mae hefyd angen buddsoddiad yn awr mewn capasiti lleol i adeiladu system rheoli tir, cynllunio ac amgylcheddol sydd â darparu cartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl yng Nghymru yn greiddiol iddo.

Ymagwedd mwy ystwyth a phragmatig at gyllid fel y gallwn ymateb i’r amgylchedd deinamig a heriol yr ydym ynddo

Gwelsom gynnydd go iawn yn nhymor hwn y Senedd wrth sefydlu ymagwedd ystwyth a phragmatig i drin yr heriau brys a wynebwn drwy’r Rhaglen Cyfalaf Llety Trosiannol a symud i gyllido rhaglen drwy’r rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Hoffem weld yr ymagwedd hyblyg yma yn cael ei hymestyn yn fwy eang i alluogi ein haelodau i wneud y gwahaniaeth mwyaf i gynyddu hygyrchedd ac ansawdd tai cymdeithasol.

Bydd yn hanfodol cynnwys cyllid ar gyfer hyn o fewn Cyllideb 2024/25 Llywodraeth Cymru fel rhan o raglen fuddsoddi gytbwys sy’n cael y gwerth mwyaf ar gyfer pobl allan o bob punt a gaiff ei gwario – nawr a hefyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ffocws o’r newydd ar atal

Gwyddom fod hyn yn anodd yn ystod argyfwng. Fodd bynnag, oherwydd ein bod mewn argyfwng y mae’n rhaid i ni fuddsoddi mewn atal. Mae atal iawn ar gam cynharach drwy gymorth a buddsoddiad mewn cartrefi presennol yn gwella deilliannau ar gyfer pobl ac yn gostwng pwysau ar y GIG a llywodraeth leol. Bydd colli ffocws ar hyn yn arwain at ganlyniadau trychinebus ar gyfer unigolion a chostau ychwanegol enfawr i’r wladwriaeth am flynyddoedd i ddod.

Rydym angen i gyllideb 2024/25 Llywodraeth Cymru ddarparu:

  • o leiaf gynnydd chwyddiant i’r Grant Cymorth Tai, sy’n cyllido mwyafrif gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai yng Nghymru, gan helpu degau o filoedd o bobl bob blwyddyn i gael adferiad o drawma ac i fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain;
  • cyllid digonol ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol sy’n ateb gwir gost darparu gofal o safon, gan eu helpu i wynebu storm yr argyfwng costau byw a thalu y Cyflog Byw Gwirioneddol i’w staff.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar 19 Rhagfyr 2023, a’r bwriad yw cyhoeddi’r gyllideb derfynol ar 27 Chwefror 2024. Byddwn yn archwilio’r drafft yn fanwl, ac yn asesu os neu sut y caiff sector tai cymdeithasol Cymru ei gefnogi i symud ymlaen, tra’n parhau i gyflenwi cartrefi fforddiadwy ansawdd uchel a gwasanaethau cymorth hanfodol i’r bobl sydd eu hangen.

Caiff ein hymateb dechreuol ei gyhoeddi ar ein gwefan, ynghyd â phapur gwybodaeth gyda mynediad agored i aelodau.