Ein hymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft 2025-26 Llywodraeth Cymru
Bob blwyddyn, mae Pwyllgor Cyllid Senedd Cymru yn casglu sylwadau ar ble dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu cyllid yn ei chyllideb nesaf. Ar gyfer cyllideb arfaethedig 2025-26, rydym unwaith eto wedi manteisio ar y cyflle i ymateb i ymgynghoriad y pwyllgor, a fydd yn ddiweddarach yn sail i graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru.
Yn y blog hwn, mae Bethan Proctor, pennaeth polisi a materion allanol, yn nodi’r cyllid a ddylai gael blaenoriaeth ar gyfer tai cymdeithasol a thenantiaid yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Ar gyfer 2024-25, dyrannodd Llywodraeth Cymru fwy na £1bn i flaenoriaethau tai, ar draws cyfalaf a refeniw. Golygodd y cyllid hwn y gallodd cymdeithasau barhau i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd, buddsoddi mewn cartrefi presennol a darparu cymorth ansawdd uchel i’w tenantiaid.
Fodd bynnag, i barhau i wneud y gwaith pwysig hwn y mae 10% o boblogaeth Cymru yn dibynnu arno, ar gyfer 2025-26, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddiogelu ei buddsoddiad yn y flwyddyn flaenorol ac ymateb i gynnydd chwyddiant.
Mae pedair blaenoriaeth glir ar gyfer cymdeithasau tai:
Cyllid digonol i’r Grant Cymorth Tai
Heb fuddsoddiad sydd o leiaf yn unol â chwyddiant ar gyfer y Grant Cymorth Tai (y brif ffrwd refeniw sy’n atal ac ymateb i ddigartrefedd, ac yn helpu pobl i gynnal eu cartrefi) ni all gwasanaethau barhau i dalu’n deg i weithwyr rheng-flaen, a chaiff ei ostwng yn gyffredinol. Nid yw hyn yn opsiwn cynaliadwy tra bo galw yn cynyddu.
Bu cynnydd o £13m yn y grant hwn ar gyfer 2023-24 i helpu mynd i’r afael â phwysau chwyddiant, yn arbennig yng nghyswllt tâl. Hyn ddylai fod y llawr newydd ar gyfer buddsoddiad yn 2025-26 ac i’r dyfodol, gan y bydd angen cyllid ychwanegol bob blwyddyn i alluogi gwasanaethau a gyllidir gan y Grant Cymorth Tai i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr.
Lawrlwythwch ein hymateb i’r ymgynghoriad i ganfod mwy, yn cynnwys pryderon ein haelodau am effaith cynnydd i Yswiriant Gwladol cyflogwyr ar eu gwasanaethau nid-er-elw.
Cyllid cyfalaf ar gyfer mwy o gartrefi drwy’r Grant Tai Cymdeithasol a’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro
Disgwylir i gymdeithasau tai gyflenwi mwy na 70% o’r holl gartrefi fforddiadwy newydd yng Nghymru yn nhymor hwn y Senedd, gan wneud cyfraniad sylweddol tuag at darged Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi newydd. Os ydym eisiau i hyn barhau, mae angen i ni ddiogelu a chynyddu’r Grant Tai Cymdeithasol a datblygu ymagwedd newydd, ystwyth a phragmatig at gyllid.
Er mai adeiladu cartrefi newydd yw’r datrysiad yn y pen draw i’r argyfwng tai, mae’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro yn galluogi cymdeithasau tai i greu cartrefi ychwanegol drwy ailfodelu, trawsnewid a llety modwlar. Os caiff y gronfa hon ei diogelu hefyd, bydd yn golygu y gellir cyflenwi 2000 o gartrefi ychwanegol erbyn diwedd tymor y Senedd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ystadegau darpariaeth tai fforddiadwy ar gyfer 2023-24 ar 11 Rhagfyr 2024. Edrychwch ar ein blog i gael ein dadansoddiad a’n hymateb i’r ffigurau.
Diogelu cymorth argyfwng yn cynnwys y Gronfa Cymorth Dewisol
Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn achubiaeth ar gyfer pobl sy’n cael trafferthion yn yr argyfwng costau byw, ac mae’n rhaid i ni weld cefnogaeth i’r gronfa hon yn parhau.
Fodd bynnag, i sicrhau fod y rhai mewn angen yn cael cymorth brys i gael cymorth cyflym, teg a dibynadwy, mae angen hefyd i wella’r system ei hun.
Darllenwch fwy yn ein hymateb i’r ymgynghoriad am ein galwadau am ymrwymiad i’r gronfa hon, a sut y credwn y gellid integreiddio mesurau ataliol ynddi.
Gallwch hefyd ddarllen mwy am sut mae cymdeithasau tai Cymru yn cefnogi tenantiaid drwy’r argyfwng costau byw yn ein hadroddiad ymchwil newydd
Cyllid i helpu darparwyr gofal cymdeithasol gyda chostau ychwanegol Yswiriant Gwladol a Chyflog Byw Gwirioneddol
Mae darparwyr gofal cymdeithasol eisoes yn wynebu anhawster ariannol sylweddol. Nawr, mae gan y cyfraniad Yswiriant Gwladol ychwanegol gan gyflogwyr a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Hydref 2024 a chynnydd i’r Cyflog Byw Gwirioneddol y potensial i wthio’r gwasanaethau hollbwysig hyn dros y dibyn.
Gofynnwn am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd yn camu mewn i ddiogelu’r sector gofal cymdeithasol, os nad yw San Steffan yn cynnig datrysiad.
Darllenwch ein hymateb i’r ymgynghoria i ganfod mwy am effaith ariannol ffactorau allanol ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol cymdeithasau tai.
Beth sydd nesaf?
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr 2024, a’r bwriad ar hyn o bryd yw cyhoeddi’r gyllideb derfynol ar 25 Chwefror 2025. Byddwn yn edrych yn fanwl ar y gyllideb ddrafft, ac yn asesu os neu sut y caiff sector tai cymdeithasol ei chefnogi i symud ymlaen, tra’n parhau i gyflenwi cartrefi fforddiadwy ansawdd uchel a gwasanaethau cymorth hanfodol i’r bobl sydd eu hangen.
Cyhoeddir ein hymateb dechreuol ar ein gwefan, a chaiff manylion pellach ar gyfer ein haelodau eu rhannu ar ein Hyb Tai.