Jump to content

09 Chwefror 2024

Barn CHC: Wrth i Bwyllgorau Senedd Cymru gyhoeddi craffu ar y gyllideb ddrafft, dyma’r hyn mae’n dal i fod angen i ni ei weld ar gyfer tai cymdeithasol

Barn CHC: Wrth i Bwyllgorau Senedd Cymru gyhoeddi craffu ar y gyllideb ddrafft, dyma’r hyn mae’n dal i fod angen i ni ei weld ar gyfer tai cymdeithasol

Mae Pwyllgorau’r Senedd wedi cyhoeddi eu hadroddiadau yn craffu cyllideb ddrafft 2024/25 Llywodraeth Cymru. Yma, mae ein harweinwyr polisi yn ymateb i’r sylwadau ac yn esbonio beth mae’r sector tai cymdeithasol a chymdeithasau tai yn dal i fod angen ei weld yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2024/25.

Wrth gyhoeddi naratif y gyllideb ddrafft yn nghanol mis Rhagfyr, dywedodd Rebecca Evans, gweinidog cyllid a llywodraeth leol “... bu'n rhaid inni wneud penderfyniadau eithriadol o anodd – y rhai mwyaf cyfyng a phoenus ers datganoli. Nid yw hi wedi bod yn flwyddyn arferol; nid ydym wedi cael toreth o ddewisiadau cadarnhaol o'n blaenau ynglŷn â ble y gallwn dargedu buddsoddiadau cynyddol ac ychwanegol.”

Er y sylweddolwn i hynny ddod â newyddion heriol i wasanaethau cyhoeddus Cymru y mae pobl yn dibynnu arnynt, dangosodd ymchwil a thystiolaeth dro ar ôl tro fod cael cartref diogel, cynnes a fforddiadwy, a systemau cymorth, yn hanfodol ar gyfer cyfleoedd bywyd pawb. Heb gyllid a chymorth digonol gan Lywodraeth Cymru, bydd cymdeithasau tai dim-er-elw yn ei chael yn anodd chwarae eu rhan lawn wrth gefnogi tenantiaid tai cymdeithasol a’u cymunedau a darparu’r cartrefi fforddiadwy mae Cymru eu hangen.

Datgarboneiddio

Yn ei adroddiad, dywedodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith fod datgarboneiddio stoc tai Cymru yn un o’r “prif heriau” sy’n wynebu Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ac ar y dyfodol.

Nododd, "... rydym yn pryderu bod cynllun wedi'i gostio'n llawn i lywio penderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol yn dal i fod flynyddoedd i ffwrdd” ac nes y cynhelir asesiad o lefel y buddsoddiad sydd ei angen i ddatgarboneiddio tai cymdeithasol a gwneud cynlluniau hirdymor ar gyfer darpariaeth, “...mae Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau gwario yn y tywyllwch.."

Wrth siarad am adroddiad y Pwyllgor, dywedodd Elly Lock, pennaeth polisi a materion allanol Cartrefi Cymunedol Cymru: “Mae cymdeithasau tai eisoes yn chwarae eu rhan wrth helpu Cymru i gyrraedd ei nod sero-net. Ar draws y wlad maent wedi gweithredu datrysiadau blaengar i ddatgarboneiddio cartrefi sy’n gweithio dros eu cymunedau ac maent eisiau mynd ymhellach.

“Fodd bynnag, ni fyddant yn medru symud ymlaen heb offer hanfodol a chyllid. Mae Pwyllgor y Senedd wedi dynodi rhywbeth y buom yn ei ddweud ers cryn amser: er mwyn i’n sector gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru ar ddatgarboneiddio, rydym angen sicrwydd ariannol hirdymor a chynllun y medrir ei gyflawni.

“Rydym yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru – ond rydym angen datrysiad i’r sector cyfan sy’n adeiladu ar y gwaith a wnaeth cymdeithasau tai eisoes i ddatgarboneiddio’r cartrefi y maent yn eu rheoli, manteisio ar dechnoleg, datblygu cadwyn gyflenwi seiliedig yng Nghymru a rhoi hwb economaidd i’n cymunedau.”

Cyflenwad

Adeiladu cartrefi newydd yw’r datrysiad pennaf i’r argyfwng tai, a dyna pam – hyd yn oed yn wyneb heriau systemig lluosog – mae cymdeithasau tai yn parhau i fod â rhan bwysig wrth sicrhau’r tai fforddiadwy mae Cymru eu hangen. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, maent wedi adeiladu hyd at 80% o’r holl dai cymdeithasol newydd ar draws y wlad.

Gwelodd y gyllideb ddrafft Lywodraeth Cymru yn gweithredu i warchod y Grant Tai Cymdeithasol, sy’n golygu y gall cymdeithasau tai – ac awdurdodau lleol – barhau â’u cynnydd wrth ddatblygu mwy o dai cymdeithasol ar gyfer pobl a chymunedau am flwyddyn arall.

Wrth graffu ar y gyllideb ddrafft, fe wnaeth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai hefyd gydnabod fod cyflenwad tai fforddiadwy yn flaenoriaeth allweddol – ond bod rhwystrau yn parhau "...i ddarparu cartrefi fforddiadwy newydd, gan gynnwys cynnydd mewn costau deunyddiau a materion yn ymwneud â chadwyni cyflenwi a’r gweithlu.”

Nododd hefyd fod cynnydd ar y targed i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd ar rent yn nhymor cyfredol y Senedd yn “fater o ddiddordeb mawr”, a’i fod yn parhau yn ymroddedig i fonitro hynny. Gan fod gan gymdeithasau tai rôl allweddol wrth gyflawni rhai o’r cartrefi tuag at y targed hwn, rydym yn canolbwyntio ffocws y pwyllgor ar fonitro cynnydd.

Ar y maes hwn, ychwanegodd Elly: “Mae buddsoddiad uchaf erioed Llywodraeth Cymru yn y grant tai cymdeithasol yn wirioneddol gadarnhaol.

“Ond mae’r systemau a’r strwythurau y mae pob adeiladydd tai yn dibynnu arnynt yn dal i oedi pobl a chymunedau rhag gael cartrefi newydd. Mae chwyddiant yn dal i effeithio ar ddeunyddiau a chadwyni cyflenwi, gan ostwng yr hyn y gall grant y llywodraeth ei brynu; mae llai o sgiliau yn parhau i fod yn y gweithlu, system gynllunio sydd dan bwysau mawr a marchnad tir gystadleuol.

“Yn y tymor byr, mae buddsoddiad i gyflwyno cartrefi newydd yn gyflym drwy gaffael a manteisio ar ddulliau modern o adeiladu yn cynnig cyfle sylweddol. Bu prosiectau blaengar fel y 12 cartref modiwlar newydd a ddarparwyd ar hen faes parcio yng Nghasnewydd gan Linc mewn partneriaeth gyda’r cyngor lleol a Zed Pods yn hanfodol wrth ddarparu lleoedd i bobl fyw ynddynt mewn ffordd sy’n ateb anghenion cymunedau lleol yn uniongyrchol.

“Yn y tymor canol a’r tymor byr, rydym angen cefnogaeth i wella problemau systemig am gapasiti awdurdodau lleol a mynediad i dir er mwyn newid pethau o ddifrif.

“Mae’n hanfodol dod â’r argyfwng tai i ben. Mae potensial enfawr i gymdeithasau tai ac eraill i adeiladu mwy o dai, ond adeiladu’r tai cywir yn y lleoedd cywir ar gyfer pobl Cymru yn awr ac am flynyddoedd lawer i ddod. Rydym angen ymrwymiad i newid y ffordd mae pethau yn gweithio i wneud i hyn ddigwydd.”

Diogelwch adeiladau

Wrth adolygu y ddarpariaeth ar gyfer diogelwch adeiladau yn y gyllideb ddrafft, croesawodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y cyllid a’r gwaith a ddigwyddodd eisoes, gan ychwanegu: “Rydym yn gwerthfawrogi ei bod yn parhau i fod yn gyfnod pryderus iawn i bobl sy’n byw mewn adeiladau sydd wedi’u heffeithio yng Nghymru, a hefyd i lesddalwyr sy’n landlordiaid. Mae’r ansicrwydd sy’n wynebu’r rhai yr effeithir arnynt yn parhau i fod yn bryder i ni ac rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu manylion am sefyllfa cynlluniau adfer adeiladau preswyl uchel ledled Cymru."

Wrth ymateb, dywedodd Elly: “Rydym yn croesawu ffocws y pwyllgor ar bwysigrwydd sicrhau cyllid amserol a digonol ar gyfer adfer diogelwch adeiladau – mae hyn yn hollol hanfodol i gadw’r tenantiaid yr effeithir arnynt yn ddiogel.

“Mae cymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol eraill wedi ac yn parhau i gymryd camau pendant i sicrhau fod adeiladau uchel yn ddiogel. fodd bynnag, mae’n bwysig fod y ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei chyflwyno yn y dyfodol yn cael ei hariannu’n gyfartal ar lefel briodol.”

Gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai

Pan gyhoeddwyd y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, roeddem yn siomedig iawn i weld bod y Grant Cymorth Tai – y prif ddull ar gyfer atal digartrefedd a chefnogi byw annibynnol yng Nghymru – wedi ei rewi.

Mae cyllid ar gyfer y gwasanaethau hyn wedi ei dorri a‘i rewi dros y degawd diwethaf, sy’n golygu – os cymherir y gyllideb gyfredol mewn gwir dermau gyda’r gyllideb yn 2011/12, ar ôl rhoi ystyriaeth i chwyddiant, bod y gronfa o £139m ar gyfer 2011/12 yn gyfwerth â tua £191m heddiw. Mae’r Grant Cymorth Tai a gyhoeddwyd yng nghyllideb ddrafft 2024/25 yn £24m llai na hyn.

Cyn cyhoeddi’r gyllideb ddrafft, fe wnaethom rannu canfyddiadau ein hymgyrch Materion Tai gyda Llywodraeth Cymru y bu cynnydd enfawr yn y galw o gymharu â 2022/23, ac y bu twf anferth hefyd mewn cymhlethdod anghenion. Roedd CHC a Cymorth hefyd wedi rhybuddio, pe byddai setliad arian gwastad fel a gynigiwyd yn awr, y dywedodd 77% o ddarparwyr gwasanaeth wrthym y byddent yn debygol iawn neu’n debygol o ostwng capasiti, byddai 40% yn debygol iawn neu’n debygol o gyflwyno contractau yn ôl ac y byddai 67% yn debygol iawn neu’n debygol o beidio cynnig am gontractau.

Mynegodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai bryder difrifol am y "nifer digynsail o bobl sydd yn byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd yng Nghymru a’r pwysau difrifol y mae hyn yn ei roi ar adnoddau gwasanaethau cymorth".

Galwodd hefyd ar Lywodraeth Cymru i “roi blaenoriaeth i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer dyraniad y Grant Cymorth Tai cyn y gyllideb derfynol, a dylai archwilio’r holl opsiynau posibl ar gyfer gwneud hynny.”

Rydym yn parhau i gredu’n gryf, os dymunwn sicrhau cynnydd ar ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru, fod angen i wasanaethau gael eu cyllido yn gynaliadwy ac yn llawn i sicrhau y gallant gyrraedd pawb sydd mewn risg o ddigartrefedd neu sydd eisoes yn ddigartref yng Nghymru.

Dywedodd Rhea Stevens, pennaeth polisi a materion allanol CHC: “Sylweddolwn faint o her yw’r gyllideb ar gyfer pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Fodd bynnag, os nad ydym yn gweithredu ac yn gwarchod ein gwasanaethau hanfodol ar ddigartrefedd a chymorth tai, bydd yr argyfwng yn parhau i ddyfnhau ar gyfer llawer o bobl a theuluoedd ar draws y wlad.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y setliad arian gwastad a sicrhau y caiff y Grant Cymorth Tai ei gyllido’n gywir yn unol â chwyddiant fel y gallwn warchod y gwasanaethau hanfodol yma.

“Mae’r cymorth y mae cymdeithasau tai a gwasanaethau eraill ar ddigartrefedd yn ei ddarparu ar draws Cymru yn newid bywydau. Os na welwn gynnydd mewn cyllid yn y gyllideb gyntaf, y gwir yw y gwyddom ein bod yn debyg o golli gwasanaethau a hynny mewn cyfnod na fu erioed fwy o’u hangen.”