Jump to content

28 Chwefror 2024

Datganiad CHC: cyhoeddi cynnydd o £13m ar gyfer gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai

Datganiad CHC: cyhoeddi cynnydd o £13m ar gyfer gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai

Yn dilyn cyhoeddi ei chyllideb derfynol, mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cadarnhau bod y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi dyrannu £13m ychwanegol i gynyddu’r gyllideb Grant Cymorth Tai i £182.3m ar gyfer 2024/25.

Bu Cartrefi Cymunedol Cymru yn ymgyrchu gyda Cymorth Cymru i sicrhau y cynyddwyd y grant yn unol â chwyddiant ar gyfer 2024/25, fel nad oedd gwasanaethau’n cael eu gorfodi i ostwng neu dynnu’n ôl, ac i sicrhau y caiff gweithwyr rheng flaen eu talu’n deg am eu gwaith sy’n newid bywydau.

Wrth siarad am y newyddion, dywedodd Rhea Stevens, pennaeth polisi a materion polisi:

“Mae cynnydd o £13m ar gyfer y Grant Cymorth Tai yn newyddion hollol wych. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, Aelodau Senedd Cymru a phawb a gefnogodd yr ymgyrch bwysig yma.

"Mae’r cynnydd hwn mewn cyllid yn golygu y gall gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai barhau am flwyddyn arall – ac, yn bwysig, gellir talu’n deg i weithwyr ar y rheng flaen sy’n newid bywydau yn uniongyrchol.

“Byddwn yn awr yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i wneud yn siŵr fod y cyllid ychwanegol yma’n cyrraedd gweithwyr rheng-flaen.

“Yn yr hir dymor, mae gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai angen setliad cyllido aml-flwyddyn sy’n sicrhau y gall y gwasanaethau hanfodol barhau cyhyd ag mae eu hangen yng Nghymru.”