Jump to content

24 Gorffennaf 2023

Gwasanaethau cymorth tai mewn argyfwng: canlyniadau toriad termau real yn y gyllideb

Gwasanaethau cymorth tai mewn argyfwng: canlyniadau toriad termau real yn y gyllideb

Rhea Stevens, pennaeth polisi a materion allanol, Cartrefi Cymunedol Cymru a Katie Dalton, cyfarwyddwr, Cymorth Cymru

Gallai nifer cynyddol o bobl sy’n ddigartref, neu sydd mewn risg o ddigartrefedd, fod yn wynebu rhestri aros hir am wasanaethau cymorth hanfodol ar ôl toriad gwir dermau i’r Grant Cymorth Tai.

Daw hyn ar ôl i’r grant aros ar £166.7 miliwn yng nghyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24, er yr amcangyfrifir fod y gost o ddarparu’r gwasanaethau hyn wedi cynyddu gan 10%.

Mae darparwyr yn awr yn wynebu penderfyniadau amhosibl am hyfywedd y gwasanaethau hanfodol hyn ar adeg pan fo mwy o bobl erioed angen y cymorth. Gallai’r canlyniadau fod yn drychinebus a rydym yn bryderus tu hwnt.

Effaith gronnus toriadau cyllid

Gwelsom fod y gostyngiad mewn gwariant cyhoeddus dros y 15 mlynedd ddiwethaf wedi cael effaith enfawr ar wasanaethau digartrefedd a chymorth tai yng Nghymru. Bu’r gwasanaethau hyn, a gaiff eu darparu yn bennaf gan ddarparwyr cymorth trydydd sector a chymdeithasau tai, yn amsugno toriadau cyllideb am amser mor hir fel nad oes fawr ddim ar ôl i’w dorri.

Yn y degawd diwethaf gwelsom ostyngiad sylweddol mewn gwir dermau i’r Grant Cymorth Tai (yn flaenorol y Grant Rhaglen Cefnogi Pobl). Roedd y gyllideb yn £139 miliwn yn 2011/12, fyddai’n gyfwerth â £186.5 miliwn ym Mawrth 2023 yn ôl cyfrifydd chwyddiant Banc Lloegr. Mae setliad cyllideb eleni felly’n golygu toriad termau real o £20 miliwn.

Mae’n achos pryder y cafodd y pwysau ar gyllid ei ddangos mewn cyflogau gweithwyr cymorth, nad ydynt yn adlewyrchu’r arbenigedd sydd ei angen i ddarparu cymorth ansawdd uchel a helpu pobl i ganfod eu ffordd drwy systemau tai, iechyd meddwl a llesiant.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym y byddai gweithwyr cymorth tai yn rhan o’u hymrwymiad i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i staff gofal cymdeithasol, ond dengys data a gasglwyd ar ddechrau 2023 fod 29% o staff a gyllidid gan y Grant Cymorth Tai yn derbyn llai o dâl na’r Cyflog Byw Cenedlaethol arfaethedig.

Effaith ar wasanaethau cyfredol a’r dyfodol

Rydym wedi dadansoddi data ar draws y sector a chredwn y bydd yn costio 10% yn fwy i ddarparu gwasanaethau yn 2023/24 na’r llynedd oherwydd cynnydd mewn cyflogau, rhent a chyfleustodau.

Dengys ein hymchwil hefyd fod 93% o wasanaethau cymorth yn bryderus tu hwnt neu’n bryderus iawn am eu gallu i barhau i ddarparu gwasanaeth heb gynnydd yn y Grant Cymorth Tai.

Gwaetha’r modd, mae’r pryderon hyn yn awr yn dod yn realaeth.

Clywsom yn ddiweddar gan ddarparwyr cymorth sy’n cael eu gorfodi i ostwng neu ailfodelu gwasanaethau, oherwydd ei bod yn amhosibl iddynt barhau i ddarparu’r un lefel heb unrhyw gyllid ychwanegol. Mae hyn yn golygu y caiff pobl mewn rhai ardaloedd eu rhoi ar restri aros am gymorth maent ei angen ar unwaith.

Dywedodd rhai darparwyr cymorth wrthym hefyd y byddant yn ei chael yn anodd cynnig am gontractau newydd neu gontractau ail-dendr, gan efallai adael awdurdodau lleol heb ddarparydd cymorth i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol.

Nid yn unig yr ydym yn bryderus iawn am hyn, ond mae’n anodd tu hwnt i ddarparwyr gwasanaeth a’u staff sy’n ymroddedig i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.

Mae comisiynwyr awdurdodau lleol hefyd wedi lleisio eu pryderon am ddiffyg cyllid a’r angen i ostwng darpariaeth gwasanaethau yn ystod argyfwng costau byw sy’n gwthio pobl yn nes at ddigartrefedd.

Gwasanaethau dan fwy o bwysau nag erioed

Daw hyn i gyd ar adeg pan fo gwasanaethau dan bwysau sylweddol, gyda dros 10,000 o bobl mewn llety dros dros a heriau cynyddol gymhleth a thrawma yn wynebu pobl sy’n ddigartref.

Mae angen cynnydd – nid gostyngiad – mewn darpariaeth gwasanaeth fel mater o frys.

Gwyddom fod cael y cymorth cywir cyn gynted ag sydd modd yn hanfodol i helpu pobl drin trawma digartrefedd ac atal pobl rhag dod yn ddigartref yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei huchelgais i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru ond mae’n rhaid i weithredu ddilyn geiriau, a bydd gwasanaethau cymorth a gaiff eu hariannu’n iawn yn allweddol i gyflawni’r nod hon.

Wrth i weinidogion Cymru ddechrau ar drafodaethau ar y gyllideb yr haf hwn, mae’n glir y dylid rhoi blaenoriaeth i’r Grant Cymorth Tai.