Beth all Housing Europe ei ddweud wrthym am dai yng Nghymru? #gwledig17
Sorcha Edwards yw Ysgrifennydd Cyffredinol Housing Europe - y ffederasiwn Ewropeaidd o sefydliadau cyhoeddus, cydweithredol a thai cymdeithasol yn cynnwys Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC). Mae'n rhwydwaith o 43 ffederasiwn cenedlaethol a rhanbarthol mewn 23 gwlad. Gyda'i gilydd, maent yn gofalu am fwy na 26 miliwn o gartrefi - tua 11% o'r cartrefi presennol yn yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd Sorcha Edwards yn siarad yng Nghynhadledd Tai Gwledig CHC ddydd Iau nesaf, 26 Ionawr.
Mae cynnydd cyflym mewn ardaloedd trefol ledled Ewrop wedi arwain at ddiboblogi ardaloedd gwledig. Nid yw'n syndod felly y disgwylir y bydd nifer y bobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol yn cynyddu o 73% o'r boblogaeth yn 2014 i dros 80% erbyn 2050.
Mae'r gallu i fforddio ym mhrifddinasoedd Ewrop hefyd yn broblem ddifrifol. Er enghraifft, canfu astudiaeth fod 95% o bobl ym Mharis yn dweud nad yw'n rhwydd dod o hyd i dai da ar brisiau fforddiadwy.
Mae oedolion ifanc ledled Cymru a gweddill tir mawr Ewrop yn ei chael yn anodd prynu eu cartref cyntaf. Mae'r broblem ar ei gwaethaf yn Slofacia lle mae 74% o bobl ifanc yn dal i fod yn byw gyda'u rhieni.
Dyna pam fod Housing Europe wedi lansio "Tai i Bawb" yn 2015 i hybu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy mewn cymunedau hyfyw. Mae'n ymgyrch Ewrop-gyfan yn galw am weithredu a chydweithredu rhwng sefydliadau gwleidyddol ac ariannol, gwledydd, awdurdodau lleol a darparwyr tai.
Mae'n gam pwysig ymlaen gan fod llawer o angen "adeiladu a thrawsnewid cartrefi" i ddatrys anghenion tai presennol a dyfodol. Mae'r angen i liniaru tlodi tanwydd a chynyddu effeithiolrwydd ynni hefyd yr un mor hanfodol. Gellid cyflawni hyn drwy alluogi cymunedau lleol i weithio gyda chwmnïau ynni a chymdeithasau tai drwy ddod yn ddarparwyr ynni.
Mae'n agenda mawr, fodd bynnag yn un hollbwysig. Mae angen i ni fod yn ddigon hyblyg i ddiogelu grwpiau agored i niwed yn ein cymunedau gwledig ac yn agored i ddefnyddio pob opsiwn sydd ar gael megis cytundebau Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol a chynlluniau rhanberchenogaeth yn ogystal â mwy o daith gymdeithasol.
Drwy gydweithio gallwn rannu a dysgu gan ein gilydd gan ddiogelu ein cymunedau gwledig ledled Ewrop a gweddill Ewrop. Archebwch yma