Jump to content

10 Rhagfyr 2024

Datganiad CHC: cyllideb ddrafft 2025/26 Llywodraeth Cymru

Datganiad CHC: cyllideb ddrafft 2025/26 Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26.

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Stuart Ropke, prif weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Er mwyn llywio Cymru allan o’r argyfwng tai a’r argyfwng costau byw, rydym angen ffocws deuol ar adeiladu’r cartrefi fforddiadwy y mae cymaint o’u hangen ac atal mwy o bobl rhag cyrraedd argyfwng. Mae cyllideb ddrafft heddiw yn gam pwysig ar y ddau.

“Mae’r £21m ychwanegol a ddyrannwyd i’r Grant Cymorth Tai – y prif ddull ar gyfer atal digartrefedd a chefnogi byw annibynnol – yn golygu y gall y gwasanaethau hanfodol a ariennir ganddo barhau eu gwaith newid-bywyd am flwyddyn arall. Bydd darparwyr cymorth mewn sefyllfa well i barhau i redeg gwasanaethau ansawdd uchel a thalu’n deg i staff am eu gwaith pwysig.

“Gan fod cymdeithasau tai yn adeiladu tua 70% o’r cartrefi cymdeithasol yng Nghymru, mae’r £81m ychwanegol o gyllid cyfalaf yn ein galluogi i barhau i sicrhau cynnydd yn gyflym ar adeiladu’r cartrefi newydd mae eu hangen ar gymaint o frys.

“Mae llawer mwy i’w wneud i fynd i’r afael â holl faint yr argyfwng tai yng Nghymru ond mae cyllideb ddrafft heddiw yn rhoi sicrwydd sydd ei fawr angen fydd yn ein helpu i sicrhau cynnydd gyda’n gilydd yn gyflym.”

Ar gyfer ymholiadau gan y wasg a chyfryngau anfonwch e-bost at Ruth Dawson, pennaeth cyfathrebu yn ruth-dawson@chcymru.org.uk.