Mae’r Hwb Sero Carbon newydd yn dod â landlordiaid cymdeithasol ynghyd i gyflawni nodau datgarboneiddio tai
Cafodd hwb rhannu gwybodaeth newydd ei lansio i ddatgloi yr arbenigedd a’r profiad sydd ei angen i ostwng allyriadau carbon o gartrefi cymdeithasol presennol a newydd.
Mae holl cartrefi Cymru yn cyfrif am tua 11% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru, ac fel canlyniad mae cymdeithasau tai yn ymroddedig i ganfod datrysiadau blaengar i wella effeithiolrwydd ynni eu tai.
Yn ogystal â diogelu’r amgylchedd mae hyn hefyd yn darparu cartrefi ansawdd da sy’n cefnogi iechyd a llesiant tenantiaid ac sydd â chostau rhedeg isel.
Drwy’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, rhaglen Llywodraeth Cymru sy’n anelu i helpu landlordiaid ostwng eu allyriadau carbon mewn cartrefi presennol, maent wedi cyflwyno datrysiadau a thechnoleg effeithiol o ran ynni i ostwng allyriadau a gwneud tai presennol yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd.
O ychwanegu pympiau gwres o’r ddaear, i baneli solar a systemau ynni deallus, mae cymdeithasau tai wedi coleddu ystod o fesurau mewn ymgais i gyrraedd sero net.
Maent hefyd yn parhau i adeiladu miloedd o gartrefi newydd cynaliadwy ledled Cymru, gan gyfrif am tua 70% o’r tai cymdeithasol newydd a adeiladwyd y llynedd, gyda
buddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru yn y Grant Tai Cymdeithasol yn barod i’w cefnogi dros y flwyddyn nesaf.
Fel arloeswyr mewn datgarboneiddio cartrefi, mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn awr yn dod ynghyd gyda datblygwyr, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a pherchnogion i rannu yr wybodaeth sydd ganddynt rhyngddynt fel rhan o Hwb Sero Carbon Cymru.
Caiff yr Hwb ei gyflwyno mewn camau dros dair blynedd gyda’r nod o ddod yn ganolbwynt ar gyfer gwybodaeth ar ddylunio, adeiladu a pherfformiad tai sero net yng Nghymru. Bydd hefyd yn cydlynu a chefnogi dysgu o brosiectau a chynlluniau blaengar presennol ar draws y Deyrnas Unedig i roi cyngor sy’n arwain y diwydiant i landlordiaid yng Nghymru.
Fel corff masnach y sector, mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn aelod o grŵp llywio Hwb gyda’r aelodau Clwyd Alyn a Pobl, a bydd yn cefnogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wrth iddynt barhau i weithio tuag at ddatgarboneiddio cartrefi cymdeithasol Cymru.
Caiff yr Hwb ei ariannu drwy Lywodraeth Cymru a’i gyflwyno gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, y Gynghrair Cartrefi Da, Trustmark a Sero, gyda chefnogaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Comisiwn Dylunio Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Ddinbych.
Mae mwy o wybodaeth am ein gwaith ar ddatgarboneiddio ar gael yma.