Gweithio i CHC
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn sefydliad sy’n gweithio o bell, gyda staff ar draws gogledd a de Cymru, ac yn Lloegr. Mae gan staff y rhyddid i gyflawni eu swydd pryd a lle y gweithiant orau.
Mae ein diwylliant a gwerthoedd yn bwysig i ni a rydym yn falch i gael tîm staff sy’n ymroddedig i’n cenhadaeth a hefyd yn angerddol am y gwaith sydd ei angen i symud ymlaen. Rydym yn annog arloesedd a bob amser yn ymchwilio sut y gallwn wneud pethau yn well.
Mae llawer o gyfleoedd i gydweithio ar draws y sefydliad ar brosiectau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd a hefyd ar draws y sector.
Mae ein gwerthoedd yn adlewyrchu sut y gweithiwn gyda’n gilydd, yn ogystal â’n haelodau a rhanddeiliaid.
Our culture and values are important to us, and we are proud to have a staff team that is not only dedicated to our mission but passionate about the work needed to progress.
We encourage innovation and are always exploring how we can do things better. There are lots of opportunities to work collaboratively across the organisation on projects, events, and campaigns and also across the sector.
Our values reflect how we work with each other, as well as our members and stakeholders.
Ein Gwerthoedd

Cynigiwn delerau ac amodau rhagorol sy’n anelu cymell, ymgysylltu a gofalu am ein gweithwyr yn cynnwys:
- Gweithio hyblyg – gyda ffocws ar allbynnau ac nid yr oriau a gafodd eu gweithio
- Cynllun tâl salwch y cwmni
- 25 diwrnod o wyliau y flwyddyn, gan gynyddu i 30 diwrnod erbyn blwyddyn 5
- 4 diwrnod o wyliau ychwanegol adeg y Nadolig
- Pensiwn cyfraniad diffiniedig
- Cyfnod mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig
- Talu am danysgrifiadau proffesiynol, lle mae’n gysylltiedig â’ch swydd
- Cynllun iechyd arian y talwyd amdano
- Mynediad i gwnsela wyneb i wyneb
- Cynllun benthyciad car
- Cynllun seiclo i’r gwaith
- Egwyliau gyrfa
- Cronfa dysgu a datblygu personol
- Cymhorthdal at aelodaeth campfa
- Parti Nadolig y Swyddfa
- Dyddiau Cwrdd i Ffwrdd
- Digwyddiadau cymdeithasol a chwrdd â’n gilydd
- Cyflogau a feincnodir yn allanol, a adolygir bob tair blynedd
- Dyfarniad cost byw blynyddol
Pam fod staff wrth eu bodd yn gweithio yn CHC?

"Rwy’n teimlo eu bod yn gofalu amdanaf o ddifri ac yn gwerthfawrogi’r pwyslais ar gydbwysedd gwaith-bywyd a hyblygrwydd gweithio."
"Hyblygrwydd am sut a phryd y caiff gwaith ei wneud a dealltwriaeth o sut y gall bywyd tu allan i waith effeithio ar lesiant yn y gwaith."
"Mae’r ffordd y mae CHC yn gweithio wedi ei seilio ar ymddiriedaeth a grymuso unigolion i wneud y peth cywir."
"Y bobl, yr angerdd a’r teimlad o wneud gwahaniaeth!"
"Mae gweithio yn CHC wedi newid fy mywyd er gwell, sefydliad mor ofalgar. Balch i fod yn rhan o’r dîm."
"Gweithio ar bethau sy’n cyfri. Mae pawb angen cartref diogel, cynnes a fforddiadwy – mae bod yn rhan o’r argyfwng tai yn sbardun gwych bob bore!"
"Nid oes yr un dau ddiwrnod byth yr un fath. Gwn y gallaf ymestyn allan i gydweithwyr os wyf angen help neu gefnogaeth. Caiff fy marn ei chlywed a’i gwerthfawrogi. A dydyn ni ddim yn cymryd ein hunain ormod o ddifri."
"Mae CHC yn amgylchedd cefnogol a hwyliog i weithio ynddo – hyd yn oed mewn byd rhithiol!"
Edrych am yrfa yn y sector tai cymdeithasol?
Rydym wedi ffurfio partneriaeth gyda Charity Job Finder i gyflwyno Swyddi Tai Cymru – gwefan gyntaf Cymru yn llwyr ar gyfer swyddi yn y sector tai cymdeithasol.