Jump to content

Sharon Lee

Aelod bwrdd

Sharon yw prif weithredwr Tai Aelwyd, cymdeithas tai seiliedig ar ffydd sy’n gweithredu ar draws de Cymru.

Cyn hynny bu’n Gyfarwyddwr Housing Justice Cymru, elusen genedlaethol ar ddigartrefedd, ac mae wedi gweithio yn y sector tai cymdeithasol ers 1994 mewn swyddi uwch a hefyd swyddi gweithredol.

Mae’n aelod bwrdd profiadol ac ar hyn o bryd yn aelod Cymoedd i Arfordir. Arferai fod yn aelod o fwrdd Tai Wales & West a bu ganddi nifer o swyddi dros dri thymor, yn cynnwys cadeirydd.

Cafodd Sharon ei magu mewn tŷ cymdeithasol a chaiff ei sbarduno gan ei chred ei bod yn fraint bod yn rhan o stori bywyd rhywun drwy ddarparu cartref da a fforddiadwy.