Jump to content

Gerraint Oakley

Cadeirydd (Annibynnol)

Mae Gerraint yn gyfarwyddwr gweithredol twf a datblygu Platform Housing Group, cymdeithas tai gyda 50,000 o gartrefi yng Nghanolbarth Lloegr.

Ymysg ei swyddi blaenorol mae bod yn rheolwr gyfarwyddwr busnes adeiladu tai Curo yng Nghaerfaddon a rheolwr gyfarwyddwr rhanbarthol Keepmoat Homes South West. Mae ganddo dros 35 mlynedd o brofiad mewn tai, eiddo tirol, rheoli asedau, datblygu ac adfywio trefol.

Ymunodd Geraint â Barratt Development Plc yn 2008 a bu’n gweithio ledled y Deyrnas Unedig yn Adrannau Cartrefi Barratt a David Wilson. Cyn ymuno â Barratt, bu’n gweithio i Vodafone am 10 mlynedd lle’r oedd yn gyfarwyddwr strategaeth byd-eang yn arbenigo mewn eiddo tirol a datblygu. Mae’n aelod o fwrdd a chadeirydd pwyllgor datblygu Ongo Homes.

Mae’n angerddol am ddatblygu cartrefi fforddiadwy, creu cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, rhaglenni graddedigion a mynediad i gyflogaeth i rai a fyddai fel arall yn ei chael yn anodd cael mynediad i gyfleoedd o’r fath. Mae hefyd yn ymwneud â hyfforddi a mentora ar gyfer pobl sy’n dechrau arni ar eu gyrfaoedd neu’r rhai sy’n dymuno datblygu eu gyrfaoedd.

Mae Geraint yn frwd am seiclo pellter hir, ac yn gwneud hynny i godi arian ar gyfer elusennau plant.