Jump to content

Brian Pickett

Aelod Bwrdd

Bu Brian yn uwch arweinydd yn sector cymdeithasau tai Cymru am dros 10 mlynedd, ar ôl ymuno â Chymdeithas Tai Rhondda yn 2015 fel Cyfarwyddwr Technoleg Gwybodaeth a Chyllid.

Oddi yno symudodd at Gymdeithas Tai Cymuned Caerdydd yn 2019, yn gyntaf fel Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, gyda gofal am gyllid a’r gwasanaethau cymorth ehangach cyn symud i swydd Prif Weithredwr yn 2023.

Bu Brian yn rhan o’r tîm arweinyddiaeth yn dod â’r sefydliad allan o ymyriad rheoleiddiol, gan arwain at drawsnewid llawer ehangach. Cymhwysodd Brian fel cyfrifydd yn 1994 a bu’n gweithio yn y sector preifat a hefyd y sector cyhoeddus, yn cynnwys y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, PricewaterhouseCoopers a Standard Chartered Bank.

Cafodd Brian ei fagu yng Nglynebwy ond mae bellach yn byw gyda’i deulu yn y Barri.