Hugh Barrett
Aelod bwrdd
Hyfforddodd Hugh yn wreiddiol fel ffisegydd, yna treuliodd ran gyntaf ei yrfa gyda chwmnïau technoleg mewn swyddi masnachol a rheoli cyffredinol yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Daeth wedyn yn uwch was sifil yn Llywodraeth y DU yn 2000, gan fod â nifer o swyddi uwch yn y Trysorlys, Adran Cymunedau a’r Weinyddiaeth Cyfiawnder. Roedd hyn yn cynnwys bod yn brif weithredwr Asiantaeth Caffael Canolog y Llywodraeth.
Mae ganddo brofiad helaeth fel aelod anweithredol o fyrddau yn y sectorau addysg, llywodraeth ac elusennol. Ers gadael y gwasanaeth sifil mae wedi cynnal aseiniadau ymgynghori yn y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r Dwyrain Canol.
Mae’n byw ym Mryste, ac yn gefnogwr brwd i griced ac yn golffwr yr un mor frwd, er anfedrus.