Jump to content

Ruth Lanham-Wright

Aelod bwrdd

Mae Ruth Lanham-Wright yn swyddog tai profiadol gyda dros 25 mlynedd yn y sector, yn cynnwys 23 mlynedd gyda Tai Gogledd Cymru. Am y chwe mlynedd diwethaf bu’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi, lle mae’n arwain cyflenwi gwasanaeth drwy ffocws cryf ar ddata a pherfformiad.

Mae gyrfa Ruth wedi cynnwys swyddi allweddol tebyg i Gyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Cyllid a Rheolwr Cyllid ac Incwm, sy’n rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr iddi o agweddau gweithredol a hefyd ariannol gwasanaethau tai.

Mae ganddi radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Cyfrifeg Gymwysedig ac mae wrthi’n cwblhau ei phapur terfynol i gymhwyso fel Cyfrifydd Siartredig Ardystiedig ACCA. Mae ei datblygiad proffesiynol yn cynnwys cymwysterau mewn arweinyddiaeth, hyfforddiant a mentora.

Cyn ymuno â’r sector tai fe wnaeth Ruth hyfforddi a gweithio fel chef, gan arbenigo mewn coginio llysieuol byd-eang, sylfaen greadigol sy’n parhau i ddylanwadu ar ei hagwedd flaengar at drawsnewid gwasanaeth. Yn angerddol am fentora arweinwyr newydd a hybu gwelliant parhaus, mae Ruth hefyd yn hoff iawn o crochet a phobi, gan gyfrannu ei doniau yn rheolaidd i ymdrechion codi arian ar gyfer elusennau.