Jump to content

Rachel Storr-Barber

Aelod bwrdd

Rachel yw pennaeth llywodraethiant a rheoleiddio ac ysgrifennydd cwmni ClwydAlyn, un o’r cymdeithasau tai mwyaf yng ngogledd Cymru, gyda dros 6,500 o gartrefi a 750 o staff (ac yn tyfu).

Mae cartrefi a gwasanaethau ClwydAlyn yn cynnwys gofal a nyrsio, cartrefi ar gyfer pobl a fu’n ddigartref, ynghyd â chartrefi fforddiadwy ansawdd da. Mae’r cartrefi ar gael mewn saith awdurdod lleol yng ngogledd a chanolbarth Cymru.

Penodwyd Rachel yn bennaeth llywodraethiant a rheoleiddio yn 2018. Mae ganddi dystysgrif uwch mewn llywodraethiant corfforaethol ac wrthi’n cwblhau Rhaglen Gymhwyso CGI. Mae ei phortffolio presennol yn cynnwys llywodraethiant, rheoli rhaglenni a phrosiectau, cyfreithiol, diogelu data, risg, gofynion rheoleiddiol, parhad busnes, adrodd ESG a chwynion.

Mae Rachel yn eiriolydd enfawr dros fenywod mewn swyddi arweinyddiaeth, ar ôl gorffen cymhwyster Menywod yn Arwain y Bwrdd a Rhaglen Camu i Swydd Anweithredol Chwarae Teg.

Bu’n gweithio yn y sector tai cymdeithasol am y rhan fwyaf o’i gyrfa helaeth 33 mlynedd.

Treuliodd bum mlynedd gyda ClwydAlyn ar y rheng flaen yn eu gwasanaeth digartrefedd. Rhoddodd hyn werthfawrogiad ddofn iddi o’r gwahaniaeth go iawn y gall cael cartref diogel a mynediad i gymorth sy’n canoli ar yr unigolyn ei wneud i bobl sy’n ddigartref, neu sy’n byw mewn tlodi.

Fel mam i ddau o blant, mae Rachel yn angerddol am gydweithio i newid anghydraddoldeb ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.