Jump to content

Sarah Schofield

Aelod bwrdd

Sarah yw cyfarwyddwr cwsmeriaid a chymunedau Cymdeithas Tai Adra.

Bu Sarah yn gweithio i Gyngor Bolton fel cyfarwyddwr cynorthwyol cymdogaeth a gwasanaethau rheoleiddiol a bu’n gweithio’n flaenorol i Gyngor Burnley a Chyngor Tameside. Mae ganddi radd mewn Iechyd yr Amgylchedd a Thai.

Fel cyfarwyddwr gweithredol Adra ac fel aelod o fwrdd WISH gogledd Cymru, mae Sarah yn gefnogwr brwd i gyfle cyfartal ar gyfer staff a chwsmeriaid tai cymdeithasol.

Mae Sarah yn rhugl yn y Gymraeg ar ôl mynychu ysgol Gymraeg a dilyn cyrsiau dysgwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor cyn ymuno ag Adra.