Jump to content

Stacy Thomas

Aelod bwrdd

Mae Stacy Thomas yn rhan o dîm arweinyddiaeth weithredol Cartrefi Cymoedd Merthyr (MVH), fel cyfarwyddwr cartrefi a lleoedd.

Bu Stacy yn gweithio yn y sector tai am dros 12 blynedd mewn gwahanol swyddi. Bu gyda MVH am bum mlynedd ac mae’n falch iawn i fod yn rhan o sefydliad cydfuddiannol a gaiff ei lywodraethu gan gorff democrataidd o denantiaid a chydweithwyr yn ogystal â bwrdd. Mae’n gyfrifol am reoli asedau, datblygu, cydymffurfiaeth, iechyd a diogelwch, atgyweiriadau, cynnal a chadw a chefnogaeth weithredol.

Gwerthoedd, diwylliant ac ymddygiad sefydliad sydd bwysicaf i Stacy ac mae’n angerddol am i sector tai Cymru ddarparu cartrefi a gwasanaethau rhagorol i bawb.

Mae Stacy hefyd yn ymddiriedolydd Cymdeithas Tai YMCA Caerdydd.