Jump to content

Aled Rowlands

Mae Aled yn arbenigydd mewn ymgysylltu, cyfathrebu a materion corfforaethol.

Mae wedi helpu sefydliadau mawr, yn fwyaf diweddar yn y sector ynni, i ymgysylltu gyda llywodraethau, rhanddeiliaid a chymunedau i sicrhau canlyniadau gwell. Bu’n gyfarwyddwr cwmni FTSE100 ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel ymgynghorydd drwy ei ymgynghoriaeth ei hun.

Yn ystod ei yrfa mae wedi gweithio mewn gwleidyddiaeth, newyddiaduraeth, teledu a radio, a materion corfforaethol. Gan ddechrau fel ymchwilydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Aled hefyd wedi gweithio i BBC Cymru Wales a’r Grid Cenedlaethol ymhlith eraill.