Jump to content

Stuart Ropke

Prif Weithredwr

Penodwyd Stuart yn Brif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru ym mis Hydref 2014. Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi ac Ymchwil y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol (NHF), corff masnach cymdeithasau tai Lloegr, lle’r oedd yn gyfrifol am arwain gwaith polisi ac ymchwil y Ffederasiwn, ac am lunio gwaith y Ffederasiwn ar y dyfodol ac arwain agweddau.

Mae’n gydawdur darn meddwl y Ffederasiwn “Facing the Future: Evolution or Revolution” a alwai am ffyrdd creadigol i gyllido tai fforddiadwy. Yn 2014, ymunodd Stuart â bwrdd y Gorfforaeth Cyllid Tai (THFC), sefydliad annibynnol dim-er-elw sy’n rhoi benthyciadau i gymdeithasau tai a reoleiddir ar draws y Deyrnas Unedig, cyn ymddiswyddo pan gafodd ei benodi i Cartrefi Cymunedol Cymru.

Cyn ymuno â’r NHF, bu Stuart yn gweithio i awdurdodau lleol yn Abertawe a Chaerdydd a’r Southern Housing Group yn Llundain mewn swyddi mewn rheoli tai, tai â chymorth a pholisi a strategaeth.

Gan weithio gydag aelodau, mae Stuart hefyd yn arwain ar ran Cartrefi Cymunedol Cymru ar gyfer y gymuned aelodaeth cadeiryddion ac is-gadeiryddion a’r gymuned aelodaeth cyllid.