Louise Attwood
Aelod bwrdd
Mae gan Louise brofiad helaeth mewn datblygu tai ac adfywio ar draws de ddwyrain Cymru. Mae wedi arwain rhaglenni twf sylweddol yn cyflenwi cartrefi fforddiadwy ansawdd uchel, ynghyd â datblygiadau daliadaeth cymysg yn cynnwys cartrefi i’w gwerthu’n llwyr a chartrefi rhent preifat, gyda ffocws cryf ar fudd cymunedol hirdymor. Mae ei gwaith yn gyson wedi rhoi blaenoriaeth i anghenion a lleisiau tenantiaid gan sicrhau fod datblygiadau yn gwella cymdogaethau lleol yn ogystal â darparu cartrefi.
Gyda chefndir yn cynnwys tai cymdeithasol a hefyd ymgynghoriaeth eiddo annibynnol, mae Louise wedi goruchwylio prosiectau adfywio graddfa fawr llwyddiannus sy’n cynyddu cyflenwad tai ac yn cryfhau seilwaith lleol a chydlyniant gymunedol. Mae’n dod â safbwynt strategol at lywodraethant, rheoli risg a chydymffurfiaeth rheoleiddiol, gan gefnogi sefydliadau i gyflawni safonau uchel o atebolrwydd a thryloywder.
Fel aelod o Fwrdd CHC, mae’n ymroddedig i helpu cymdeithasau tai i gyflenwi cartrefi diogel a fforddiadwy a chymunedau bywiog a chynhwysol ledled Cymru.