Jump to content

01 Tachwedd 2023

Safon Ansawdd Tai Cymru 2023: beth nesaf ar gyfer cymdeithasau Tai Cymru?

Dywedodd fersiwn blaenorol o’r erthygl hon “Mae’r SATC newydd hefyd yn rhoi amserlen ar gyfer cyflawni sy’n golygu y dylai landlordiaid fod wedi cadarnhau erbyn 31 Mawrth 2025 fod eu holl dai yn cyrraedd y safon”. Y dyddiad hwnnw mewn gwirionedd yw 31 Mawrth 2034.

Yng Nghymru, mae cymdeithasau tai yn bodoli i ddarparu cartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl sydd eu hangen – ond mae eu cyfrifoldeb yn mynd tu hwnt i ddim ond trosglwyddo’r allweddi i annedd. Maent hefyd yn gweithio yn barhaus i sicrhau fod y cartrefi y maent yn eu rheoli yn effeithiol o ran ynni, yn ddiogel ac yn fforddiadwy.

I sicrhau fod pob cartref cymdeithasol yng Nghymru yn cyrraedd safon dda tebyg, mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (h.y. cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol) yn gweithio tuag at y gofynion a nodir yn Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) Llywodraeth Cymru.

Wedi’i gyflwyno gyntaf yn 2002, mae cymdeithasau tai Cymru wedi gweithio’n barhaus i sicrhau fod pob un o’r cartrefi y maent yn eu rheoli yn ateb y meini prawf y mae SATC wedi eu gosod ers hynny. Yr amserlen wreiddiol i landlordiaid tai cymdeithasol gyrraedd SATC oedd diwedd 2020, ond cafodd hyn ei ymestyn i ddiwedd 2021 i rai landlordiaid oherwydd pandemig Covid-19.

Nawr, 15 mlynedd yn ddiweddarach, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi iteriad newydd o’r safon a gafodd ei ddiweddaru, gan adeiladu ar y meini prawf gwreiddiol, i adlewyrchu’r newid yn anghenion pobl sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol.

I gyrraedd y safon gwreiddiol, mae’n rhaid i dai fod:

  • mewn cyflwr da;
  • yn ddiogel;
  • wedi’u gwresogi’n ddigonol, yn effeithiol o ran tanwydd ac wedi’u hinsiwleiddio’n dda;
  • yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern;
  • wedi’u rheoli’n dda (ar gyfer tai ar rent);
  • wedi’u lleoli mewn amgylcheddau deniadol a diogel;
  • A, lle’n bosibl, yn addas ar gyfer anghenion penodol y rhai sy’n byw yno, tebyg i bobl gydag anableddau.

SATC 2023

Cyflwynwyd SATC gyntaf ar amser pan roedd llawer o gartrefi yn y sector cyhoeddus a phreifat mewn cyflwr gwael iawn. Roedd llawer o dai cymdeithasol yn aneffeithiol o ran ynni a roedd y wlad yn gweld cynnydd mewn tlodi tanwydd.

Mae cartrefi cymdeithasau tai Cymru mewn lle gwahanol erbyn hyn, 21 mlynedd o weithredu’r safon gwreiddiol. Yn 2004, dim ond 2.7% o’r holl dai cymdeithasol oedd yn cyrraedd y safon ond erbyn 31 Mawrth 2022, roedd pob annedd tai cymdeithasol yn cydymffurfio 100% gyda’r safon, yn cynnwys methiannau derbyniol*, o gymharu â 99% fel ar31 Rhagfyr 2020.

Er fod rhan o’r SATC wedi aros yr un fath dan fersiwn newydd 2023, mae hefyd yn anelu i gyflymu datgarboneiddio stoc tai cymdeithasol Cymru, ac yn anelu i gefnogi ymdrechion i gyrraedd sero net. Mae hefyd gynnydd yn y gofyniad uwch ar gyfer lloriau, ac ystyried bioamrywiaeth a thlodi dŵr.

Mae ffocws y safon yn awr ar wyth elfen sy’n adeiladu ar y fersiwn flaenorol a “bydd yn parhau i gynyddu a chynnal ansawdd tai cymdeithasol yng Nghymru”.

Yr elfennau hyn yw:

  • Mae’n rhaid i gartrefi fod mewn cyflwr da.
  • Mae’n rhaid i gartrefi fod yn ddiogel.
  • Mae’n rhaid i gartrefi fod yn fforddiadwy i’w gwresogi ac sy’n cael yr effaith amgylcheddol leiaf bosibl.
  • Mae’n rhaid i gartrefi fod â chegin fodern ac ardal gyfleustodau.
  • Mae’n rhaid i gartrefi fod ag ystafell ymolchi fodern.
  • Mae’n rhaid i gartrefi fod yn gyfforddus ac yn hyrwyddo llesiant.
  • Mae’n rhaid i gartrefi fod â gardd addas.
  • Mae’n rhaid i gartrefi fod ag ardal awyr agored ddeniadol.

Mae’r SATC newydd hefyd yn gosod amserlen ar gyfer cyflawni sy’n golygu erbyn 31 Mawrth 2034 y dylai landlordiaid fod wedi cadarnhau fod eu holl dai yn cyrraedd y safon.

Ymgysylltu â thenantiaid

Un rhan bwysig o SATC 2023 na chaiff ei gynnwys yn yr elfennau pennawd hyn yw ymgysylltu â thenantiaid. Ar gyfer cymdeithasau tai nid-er-elw, mae ymgysylltu â thenantiaid – a lle’n berthnasol iddynt, ymgysylltu â’r gymuned - yn rhan bwysig o sicrhau fod y cartrefi a ddatblygant, y gwasanaethau a ddarparant a ffyrdd o weithio yn gydnaws gydag anghenion tenantiaid.

Nawr, mae’r safon yn cydnabod pwysigrwydd y math hwn o ymgysylltu ac yn dweud y dylai tenantiaid gael eu hannog i gymryd rhan wrth wneud unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio ar eu cymuned ac amgylchedd. Mae hefyd ddisgwyliad y dangosir i denantiaid sut y datblygwyd rhaglen eu cymdeithas tai i gyrraedd y safon newydd a sut y mae eu barn a’u blaenoriaethau nhw – a/grŵp tenantiaid – wedi dylanwadu ar hynny.

Mae ein haelodau wedi dysgu drwy gydol y SATC blaenorol, a’u gwaith parhaus ar ddatgarboneiddio, fod ymgysylltu â thenantiaid yn hollbwysig i sicrhau y caiff yr opsiynau gorau eu gweithredu yn y ffordd gywir, a bod tenantiaid yn deall sut a pham y caiff pethau eu gwneud.

Mae cynllun Penderi Pobl yn enghraifft wych o hyn. Mae ymgysylltu yn greiddiol i fuddsoddiad graddfa-fawr a hirdymor y gymdeithas tai er mwyn sicrhau y caiff y prosiect ôl-osod ynni adnewyddadwy mwyaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig ei ddatblygu, ei gweithredu a’i gyfathrebu yn y ffordd orau bosibl.

Croesawn uchelgais Llywodraeth Cymru i wella ansawdd cartrefi cymdeithasol ymhellach ar gyfer tenantiaid newydd yn y SATC nesaf, yn arbennig yn ymwneud â datgarboneiddio, sy’n adeiladu ar waith caled y sector i gydymffurfio’n llawn gyda’r iteriad blaenorol.

Mae cymdeithasau tai Cymru yn awr yn sefyll yn barod i gefnogi’r nodau newydd hyn – ond i’w cyflawni rydym angen cynllun a gaiff ei gyllido’n llawn ac y medrir ei gyflawni. Un sy’n manteisio ar dechnoleg, yn datblygu cadwyn gyflenwi yng Nghymru ac sy’n rhoi hwb economaidd i’n cymunedau.

Rydym hefyd yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda’r sector tuag at weithredu. Mae’n hanfodol y gallwn ddynodi cyllid, datrysiadau polisi a dull adrodd sydd nid yn unig yn sicrhau y gellir cyflawni’r safon, ond sydd hefyd yn galluogi gwasanaethau hanfodol i denantiaid i barhau, ynghyd â datblygu’r cartrefi cymdeithasol newydd y mae ein gwlad gymaint o’u hangen.

Ni ddylid bychanu’r dasg enfawr sy’n wynebu cymdeithasau tai nid-er-elw, a bydd y cynllun ar y cyd hwn yn hanfodol i sicrhau y gallant weithio tuag at gydymffurfiaeth lawn ac unwaith eto wella ansawdd cartrefi cymdeithasol ar gyfer tenantiaid yng Nghymru.

*Y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd am fethiant derbyniol oedd ‘amseriad yr unioni’ ond gall pethau eraill fel cost, a phreswylwyr yn dewis peidio cael gwaith wedi ei wneud, atal landlordiaid cymdeithasol rhag cydymffurfio ar rai anheddau. Lle na chafodd gwaith ei gwblhau, dim ond os nad yw’n achosi unrhyw beryglon iechyd a diogelwch difrifol y caiff ei farnu i fod yn fethiant derbyniol dan ganllawiau Llywodraeth Cymru.

Ymateb: Taliadau cymorth costau byw

Dywedodd y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau trawsbleidiol mai dim ond cymorth tymor byr y mae taliadau cymorth costau byw yn ei gynnig ar gyfer pobl sy’n wynebu anawsterau ariannol ac nad ydynt wedi trin holl faint y broblem.

Mae angen i’r Llywodraeth ehangu ei chymhwyster ar gyfer taliadau’r dyfodol, yn ôl y pwyllgor, tra hefyd yn edrych ar yr heriau ariannol neilltuol sy’n wynebu gwahanol grwpiau.

Daw ei alwad ar ôl i ymchwiliad edrych ar y cymorth a gyflwynwyd i helpu gwarchod hawlwyr budd-daliadau rhag chwyddiant a’r cynnydd mewn prisiau ynni. Yn ei ganfyddiadau, awgrymodd y pwyllgor y dylai’r Llywodraeth ystyried cynyddu credyd cynhwysol – yn hytrach na gwneud taliadau.

Dywedodd Hayley Macnamara, ein rheolwr polisi a materion allanol sy’n arwain ar yr argyfwng costau byw, fod angen gwneud mwy i sicrhau na anghofir am anghenion ariannol tenantiaid cymdeithasau tai.

Dywedodd: “Mae pobl sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai yn parhau i fod ymysg y rhai y mae’r argyfwng costau byw wedi taro waethaf arnynt ac maent angen cymorth ariannol fel mater o frys yn awr.

“Mae’n hanfodol y caiff budd-daliadau eu cynyddu yn unol â chwyddiant fel y gall pobl ar incwm is, yn cynnwys llawer sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai, fforddio’r hanfodion byw sylfaenol iawn.

“Mae hefyd yn hollol hanfodol fod adolygiad a chynyddu Credyd Cynhwysol. Bydd hyn yn sicrhau fod pobl yn gael yr isafswm lefel cymorth maent ei angen i’w hatal rhag cael eu gorfodi i wneud hyd yn oed fwy o ddewisiadau torcalonnus ar wariant.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i weithredu nawr i sicrhau na chaiff pobl sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai eu hanghofio y gaeaf hwn. Byddem yn annog unrhyw un sy’n byw mewn cartref cymdeithas tai yng Nghymru i gysylltu gyda’u landlord os ydynt yn bryderus am anawsterau ariannol.”

*The most common reason given for an acceptable fail was ‘timing of remedy’, but other things like cost, and residents choosing not to have work done can prevent social landlords from being complaint on certain properties. Where work has not been completed it is only deemed to be an acceptable fail under Welsh Government guidance if it does not cause any serious health and safety hazards.