Ymateb: Adnewyddu adeiladau presennol i fynd i’r afael â’r argyfwng tai
Mae Housing Justice Cymru wedi galw am i fwy gael ei wneud i adnewyddu adeiladau hŷn er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai parhaus.
Dywedodd yr elusen y byddai gwneud gwell defnydd o eiddo gwag yn helpu i greu cartrefi y mae angen dybryd amdanynt a helpu i gefnogi twf cymunedol.
Daw eu galwad yn dilyn data diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), sy’n dangos y gall hyd at 120,000 o gartrefi yng Nghymru fod yn wag – sy’n gyfwerth ag un ym mhob 12 annedd.
Elly Lock, pennaeth polisi a materion allanol Cartrefi Cymunedol Cymru: “Mae pawb yn haeddu rhywle diogel, cysurus a saff i fyw ynddo, a dyna pam fod cymdeithasau tai Cymru yn ymroddedig i wneud Cymru yn wlad lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb.
“Mae cymdeithasau tai Cymru yn ymroddedig i ymchwilio ffyrdd blaengar i gynyddu cyflenwad tai a darparu’r cartrefi y mae pobl angen dybryd amdanynt.
“Mae hyn yn cynnwys prosiectau ôl-osod sy’n arwain y sector gan drawsnewid eiddo presennol yn dai hanfodol, ynghyd â chaffael a phrynu hen stoc tai cymdeithasol.”
I ganfod mwy am waith blaengar cymdeithasau tai i gynyddu cyflenwad tai darllenwch yma.