Ymateb: Tri chyflenwr ynni i ailddechrau gosod anwirfoddol ar fesuryddion blaendalu
Dywedodd y rheoleiddiwr ynni Ofgem fod tri chyflenwr ynni blaenllaw wedi cyflawni ei amodau i ailddechrau gorfodi gosod mesuryddion blaendalu.
Gall EDF, Octopus a Scottish Power yn awr ailddechrau’r arfer o orfodi gosod mesuryddion blaendalu.
Mae pob un o’r tri wedi cyflawni set amodau’r rheoleiddiwr, a gyflwynwyd yn cynnwys pryder eang y llynedd am effeithiau’r arfer.
Mae’r amodau hyn yn cynnwys cynnig iawndal i gwsmeriaid y cafodd eu mesuryddion blaendalu eu gorfodi a dychwelyd i fesurydd heb fod yn un blaendalu. Gofynnwyd i gyflenwyr hefyd gynnal archwiliadau mewnol i ddadlennu pa fesuryddion a gafodd eu gosod yn amhriodol cyn mis Chwefror 2023.
Dan y cod ymarfer newydd a gyflwynwyd gan Ofgem i warchod cwsmeriaid bregus, mae’n rhaid i gyflenwyr sy’n ailddechrau gosod roi data monitro yn rheolaidd i’r rheoleiddiwr i sicrhau y caiff unrhyw achosion sy’n peri pryder eu dynodi yn gyflym.
Cyn y gellir dechrau ar y gwaith gosod, mae’n rhaid i gyflenwyr hefyd geisio cysylltu â chwsmer 10 gwaith cyn symud ymlaen, ac mae’n rhaid iddynt hefyd gynnal ymweliad llesiant ymlaen llaw.
Dywedodd Bethan Proctor, rheolwr polisi a materion allanol Cartrefi Cymunedol Cymru sy’n arwain ar dlodi tanwydd: “Mae’n siomedig y gall rhai cyflenwyr ynni yn awr ailddechrau gorfodi gosod mesuryddion blaendalu.
“Bydd hyn yn cael effaith andwyol ar bobl ar incwm is, yn cynnwys llawer sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai yng Nghymru, a allai fod heb yr arian i roi yn y mesurydd ac mewn perygl o fedru methu gwresogi eu cartrefi yn ystod misoedd oer y gaeaf.
“Yn ein adroddiad diweddar Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd galwn ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau fod cyflenwyr yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded ac nad ydynt yn ailddechrau gorfodi gosod mesuryddion blaendalu mewn aelwydydd sy’n fregus yn ariannol.
“Gyda phrisiau ynni yn cynyddu y mis hwn, mae’n hanfodol cyflwyno tariff ynni cymdeithasol a bod opsiynau ad-dalu fforddiadwy ar gael ar gyfer y rhai sy’n wynebu dyledion ynni. Rydym yn annog unrhyw un sy’n byw mewn cartref cymdeithas tai yng Nghymru i gysylltu gyda’u landlord os ydynt yn bryderus am wresogi eu cartref.”