Jump to content

Cartrefi Newydd a Buddsoddiad

Yn gryno

Mae cymdeithasau tai yn darparu cartrefi ansawdd uchel fforddiadwy a chyfleus i bobl leol mewn pob math o ddaliadaeth. Dros y degawd diwethaf, mae ein haelodau wedi darparu mwy na 23,000 o gartrefi fforddiadwy a chymdeithasol newydd, ac mae ganddynt uchelgais i wneud llawer mwy.

Mae gennym weledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb a’n huchelgais fel sector yw darparu 75,000 o gartrefi newydd erbyn 2036.

Mae cymdeithasau tai yn ymroddedig i sicrhau fod y buddsoddiad hwn yn cael yr effaith mwyaf yn lleol, ac rydym wedi ymrwymo i gynyddu’r swm a wariwn yng Nghymru o 85c ym mhob £1 i 90c ym mhob punt erbyn 2026.

Mae ein hymchwil [link to economic impact] yn dangos y byddai hyn yn:

  • Cefnogi 29,000 o swyddi yn economi Cymru
  • Ysgogi £7 biliwn o weithgaredd economaidd ar draws Cymru
  • Creu mwy na 11,000 o gyfleoedd hyfforddiant
  • Sicrhau gwell llesiant, a brisiwyd ar bron £200 miliwn, ar gyfer pobl yng Nghymru.

Mae cymdeithasau tai yn gweithio mewn partneriaeth gydag ystod eang o sefydliadau yn cynnwys awdurdodau lleol, datblygwyr preifat a benthycwyr er mwyn darparu cartrefi newydd.

Mae cymdeithasau tai yn fusnesau cymdeithasol annibynnol. Mae hyn wedi ein galluogi i ysgogi £3 biliwn o fuddsoddiad [link to Global Accounts] i Gymru, ac mae gennym gynlluniau i gynyddu’r buddsoddiad gan £1 biliwn arall erbyn 2026. Mae’r buddsoddiad hwn yn gwneud i arian cyhoeddus fynd ymhellach, caiff pob £1 a fuddsoddir gan y llywodraeth mewn cartrefi newydd ei gyfateb gan £1 o’n buddsoddiad ein hunain.

Ein blaenoriaethau

  • Cyflwyno’r achos dros fuddsoddiad mewn tai cymdeithasol a dangos rôl hanfodol buddsoddiad mewn cartrefi newydd i lesiant cymdeithasol ac economaidd.
  • Dylanwadu ar y fframwaith newydd ar gyfer cyflenwi grant tai cymdeithasol yn dilyn argymhellion yr ‘Adolygiad Annibynnol o’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy’ i gefnogi cymdeithasau tai i adeiladu mwy o gartrefi ansawdd da
  • Meithrin cysylltiadau i gefnogi aelodau i ddatblygu cartrefi newydd yn gyflym a rhoi sicrwydd iddynt
  • Cefnogi aelodau i barhau i gyfeirio eu buddsoddiad yn lleol mewn ffyrdd sy’n cefnogi’r economi sylfaenol a gwella llesiant cymunedol.

Sut ydym yn datblygu’r maes gwaith hwn

Mae gan ein grwpiau cyflenwi strategol Cartrefi’r Dyfodol a Chyllid rôl strategol wrth lywio ein gwaith ar gartrefi newydd a buddsoddiad a dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a gwneuthurwyr penderfyniadau eraill yn y maes hwn.

Ynghyd â’n gwaith gydag aelodau, dymunwn hefyd weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill o’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Sefydliad Brenhinol Cynllunwyr Tref Cymru a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr. Rydym yn cysylltu’n rheolaidd gyda Llywodraeth Cymru ar faterion yn ymwneud â chartrefi newydd a buddsoddiad, ac yn aelodau o’r grŵp Cyd-ddylunio ar gyllido tai fforddiadwy ynghyd â chynrychiolwyr o gymdeithasau tai a llywodraeth leol.

I gael mwy o wybodaeth ar sut ydym yn datblygu polisi, cliciwch yma.

Crynodeb llawn
Bryony Haynes

Gyda phwy i siarad...

Bryony Haynes
Hidlo yn ôl Maes Polisi
  • Y cyfan
  • Grant Tai Cymdeithasol (SHG)
  • Tir a Chynllunio
  • Yr Adolygiad o Dai Fforddiadwy
  • Safonau Adeiladu

09 Mai 2022

Entry 69844

Entry 69844
Hidlo yn ôl Maes Polisi
  • Y cyfan
  • Grant Tai Cymdeithasol (SHG)
  • Tir a Chynllunio
  • Yr Adolygiad o Dai Fforddiadwy
  • Safonau Adeiladu