Jump to content

25 Awst 2023

Pedwar o’r ffactorau mwyaf sy’n effeithio ar ddatblygu tai yng Nghymru

Pedwar o’r ffactorau mwyaf sy’n effeithio ar ddatblygu tai yng Nghymru

Gyda’r cynnydd aruthrol yn y galw am bob math o lety fforddiadwy yn mynd tu hwnt i’r nifer o gartrefi sydd ar gael - mae’n amlwg bod Cymru’n wynebu argyfwng.

Yn ôl yr ystadegau gan Shelter Cymru, y mae 90,000 o aelwydydd ar y rhestr aros am gartref cymdeithasol yng Nghymru, gyda 10,444 o unigolion mewn llety dros dro - 3,500 ohonynt yn blant.

Gadawodd y bwlch yma rhwng yr angen am fwy o dai a’r diffyg tai sydd ar gael, lawer o bobl yn bryderus am eu sicrwydd o ran tai yn y tymor hir.

Er gwaethaf hyn, mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gwneud cyfraniad sylweddol at adeiladu tai fforddiadwy ychwanegol yng Nghymru. Yn 2021/22 fe wnaethant ddarparu 80% o’r holl dai fforddiadwy ychwanegol ar draws Cymru, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru.

Felly beth yw’r prif ffactorau sy’n effeithio ar dai yng Nghymru?

Yma mae ein swyddog polisi a materion allanol Elly Lock yn trafod ei syniadau am y problemau mwyaf sy’n effeithio ar ddatblygu tai yng Nghymru ...

Chwyddiant

Oherwydd chwyddiant mae cost deunyddiau adeiladu wedi cynyddu’n fawr, gan ei gwneud yn ddrytach i adeiladu, ac yn fwy anodd i gontractwyr weithredu.

Yn ei dro mae hyn wedi ei gwneud yn anos dod o hyd i gontractwyr sy’n barod i wneud y gwaith.

Buddsoddodd Llywodraeth Cymru yn y sector i helpu i daclo’r cynnydd hwn yng nghost deunyddiau adeiladu, ond mae’r amgylchedd yn parhau yn heriol.

Cadwyn gyflenwi

Mae cadwyni cyflenwi’n dylanwadu ar ddatblygu fel y mae argaeledd deunyddiau adeiladu. Ond fe wnaeth y pandemig COVID-19 effeithio ar lefelau staffio, cyfyngu’r mynediad i safleoedd adeiladu, atal teithio, ac amharu’n ddifrifol ar y gadwyn hon.

Mae gadael yr UE hefyd wedi cael effaith sylweddol ar gadwyni cyflenwi, gyda 60% o ddeunyddiau yn y sector adeiladu yn cael eu mewnforio o’r UE yn ôl adroddiad gan y Sefydliad Tai Siartredig. Ac mae gadael yr UE wedi cael effaith ddifrifol ar y cyflenwad o goed, yn ôl y Cyngor Arwain Adeiladu gyda 80% i 90% o’r coed meddal yn cael eu mewnforio o wledydd Ewrop.

Yn ychwanegol at hyn, mae prinder dur wedi gweld gweithgynhyrchwyr yn atal archebion er mwyn osgoi prynu mewn panig, ac mae costau cludo mewn llongau wedi cynyddu. Arweiniodd hyn at weld busnesau adeiladu yn codi eu costau llafur gan eu bod yn wynebu cynnydd mewn prisiau.

Supply chain issues have impacted housing development in Wales.

Cynllunio

Yn ystod y pandemig fe wnaeth nifer o gynllunwyr arbenigol ymddeol neu adael y proffesiwn. O ganlyniad mae prinder cynllunwyr yn awr ar draws Cymru, sydd wedi arwain at lai o bobl gymwys mewn timau cynllunio, ac i geisiadau cynllunio gael eu prosesu yn arafach.

Gwaethygir y sefyllfa hon gan y ffaith bod cynllunio a rheolaeth amgylcheddol yn mynd yn gynyddol gymhleth ac yn gofyn am fwy o wybodaeth arbenigol.

Draeniad a ffosffadau

Mae’r materion hyn yn neilltuol o berthnasol i Gymru. Yn Ebrill 2022, roedd heriau oherwydd ffosffad yn effeithio ar 28 o gynlluniau tai.

Mae saith cymdeithas dai, oedd yn bwriadu cyflawni dros 1,000 o dai fforddiadwy i dros 2,000 o bobl, wedi methu symud ymlaen o’r herwydd.

Gall hyn gymryd misoedd i’w ddatrys ac achosi oedi sylweddol o ran datblygiadau tai, ac yn ei dro arwain at lai o bobl yn cael eu cartrefu.

Pan ddaw’n fater o’r amgylchedd, mae’r sector yn bendant am fod yn rhan o’r sgyrsiau yma i greu tai cyfrifol a chynaliadwy. Maent am fuddsoddi mewn dulliau blaengar i helpu i gefnogi’r amgylchedd naturiol, a sicrhau nad yw datblygu tai yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.

Beth ydym ni’n ei wneud

Rydym wedi bod yn gweithio gyda chymdeithasau tai, Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner ar draws y sector i helpu wrth adfywio datblygu tai yng Nghymru a datgloi rhai o’r rhwystrau mwyaf sy’n wynebu’r maes tai.

Mae wedi bod yn anhygoel o anodd adeiladu oherwydd y ffactorau hyn, ond nid yw cymdeithasau tai wedi troi cefn ar adeiladu cartrefi newydd, ac maent yn dal yn ymroddedig i adeiladu cymaint o dai newydd â phosibl, fel y mae’r data’n profi.

Mae cymdeithasau tai yn canolbwyntio ar ddod â thai newydd i Gymru, nid yn unig trwy adeiladu ond trwy eu caffael, eu hail-fodelu a’u hôl-osod.

Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â media@chcymru.org.uk