Jump to content

04 Mehefin 2026

Partneriaid masnachol newydd CCC: PureCyber

Partneriaid masnachol newydd CCC: PureCyber

Fel rhan o gyfres o blogiau ar partneriaid masnachol newydd Cartrefi Cymunedol Cymru ar gyfer 26/27, mae Damon Rands, Sefydlydd a Phrif Weithredwr, yn esbonio pam y dewisodd PureCyber ffurfio partneriaeth newydd gyda’n sector.
 

Pam wnaethoch chi ddewis dod yn bartner masnachol i CHC?

Rydym eisiau cefnogi cymdeithasau tai yng Nghymru Dyma’n cartref wedi’r cyfan. 

Mae CHC yn dod â’r sector tai ynghyd, yn rhannu gwybodaeth ac yn helpu aelodau i fynd i’r afael â heriau cyffredin. Mae hyn yn ei wneud y lle cywir ar gyfer partner seiber sydd eisiau bod yn ddefnyddiol, nid dim ond gweladwy.

I ni, mae’r bartneriaeth hon ynglŷn â chyfrannu gwir wybodaeth o’r sector, dysgu gan aelodau a helpu darparwyr tai i wneud penderfyniadau da cyn i broblemau ddod yn ddigwyddiadau mawr.

Mae cyfle gwirioneddol i gymdeithasau tai foderneiddio gwasanaethau, gwella mynediad i wybodaeth i gefnogi’r economi sylfaen a defnyddio systemau digidol yn fwy hyderus ar draws rheoli tai, cyllid, cydymffurfiaeth a chymorth i denantiaid. Ond dim ond os yw gwytnwch seiber yn cadw lan ag ef mae cynnydd digidol yn gweithio.
Damon Rands, Sefydlydd a Phrif Weithredwr

Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?

Rydym yn cefnogi sefydliadau ar drws maes cysylltiedig hwn:

  • Llywodraethiant: eich helpu i lunio’r polisïau, cynlluniau, perchnogaeth risg a sicrwydd sydd eu hangen i reoli seiber yn dda.
  • Ymosodol: profi eich amgylchedd fel y byddai haciwr yn ei wneud, fel y gellir dod o hyd i wendidau yn gyflym a’u trwsio.
  • Amddiffynnol: darparu cymorth parhaus i fonitro, canfod bygythiadau ac ymateb i ddigwyddiadau i ostwng mannau dall a gweithredu’n gyflym pan fo rhywbeth yn edrych yn anghywir.

Rydym yn wahanol gan ein bod yn gweithredu fel yr un partner atebol am seiber-ddiogelwch ar gyfer y sector tai, sy’n golygu y gallwn gysylltu’r dotiau, gostwng dryswch am berchnogaeth cyflenwyr a darparu cefnogaeth barhaus ar draws ein tri philer gwasanaeth.

Ac ym mis Chwefror, fe wnaethom ddathlu dod yn Bartner Seiber-ddiogelwch Gorau yn y Gwobrau Arloesedd Tai, gan gydnabod ein heffaith yn sector tai cymdeithasol y Deyrnas Unedig.

Pa gyswllt fu gennych chi gyda’r sector tai cymdeithasol hyd yma?

Rydym eisoes yn gweithio gyda chyrff yn y sector tai cymdeithasol ac yn deall fod risg seiber y sector yn wahanol i lawer o sectorau eraill. Nid dim ond problem systemau yw hi pan fo gan ddarparydd tai broblem seiber ddifrifol.

Esboniodd Nigel Lee (Pennaeth Technoleg Gwybodaeth a Chaffael, Cartrefi Cymunedol Caerdydd): “Pam gawsom ni ymosodiad seiber, fedren ni ddim gwneud pethau dydd-i-ddydd fel rhoi adroddiad am waith trwsio, talu i gyflenwyr, derbyn taliadau ac yn y pen draw gefnogi ein cymunedau. Seiber yw’r risg mwyaf ac uchaf ar y gofrestr risg oherwydd fod y canlyniadau yn drychinebus.”

Dyna pam y cafodd ein gwaith yn y sector tai ei adeiladu o amgylch galluedd gweithredol, nid cyngor cyffredinol ar seiber. Rydym yn helpu timau i ostwng risg mewn ffyrdd sy’n cefnogi cyflenwi gwasanaeth o ddydd i ddydd, rhoi sicrwydd cliriach i arweinwyr a thynnu’r pwysau oddi ar dimau technoleg gwybodaeth a digidol mewnol bach.

Sut y gal PureCyber gefnogi cymdeithasau tai yng Nghymru?

Rydym yn helpu cymdeithasau tai i fod yn gliriach ar ble mae eu gwir risgiau seiber, sut olwg sydd ar da a beth ddylai ddigwydd nesaf. Gallai hynny olygu cryfhau llywodraethiant, gwella amlygrwydd risg ar draws systemau a chyflenwyr, dadlennu gwendidau cyn i ymosodwyr eu canfod neu roi gwell cymorth o ddydd i ddydd i dimau technoleg gwybodaeth.

Drwyddi draw, rydym yn helpu timau arweinyddiaeth i deimlo’n fwy hyderus fod risg seiber yn cael ei reoli’n iawn ac yn gyson. Mewn sector lle mae gwasanaethau, incwm ac ymddiriedaeth i gyd yn bwysig, mae’r sicrwydd hwnnw yn bwysig.

Beth yw’r cyfleoedd allweddol ar gyfer y sector tai cymdeithasol yng Nghymru a pha rôl ydych chi’n gweld eich sefydliad yn ei chwarae wrth helpu cymdeithasau i gael y fantais fwyaf ohonynt?

Mae cyfle gwirioneddol i gymdeithasau tai foderneiddio gwasanaethau, gwella mynediad i wybodaeth i gefnogi’r economi sylfaen a defnyddio systemau digidol yn fwy hyderus ar draws rheoli tai, cyllid, cydymffurfiaeth a chymorth i denantiaid. Ond dim ond os yw gwytnwch seiber yn cadw lan ag ef mae cynnydd digidol yn gweithio.

Ein rôl yw helpu darparwyr tai i symud ymlaen yn ddiogel. Mae hyn yn golygu rhoi golwg gliriach o risg i dimau, gan eu helpu i gryfhau mannau gwan a gwneud i seiber deimlo’n fwy hylaw a llai ymatebol. O’i wneud yn dda, dylai seiber gefnogi gwasanaethau gwell a phenderfyniadau gwell, ac nid eu harafu.

Mae twf ein busnes wedi golygu ein bod yn parhau i gefnogi twf ein tîm SOC yng Nghaerdydd, gan ein galluogi i recriwtio arbenigwyr SOC lleol a thalentog a darparu cymorth SOC 24/7 dan arweiniad pobl, mewnol i sector tai Cymru.

Canfod mwy gan Insight HRC

E-bost Ceri Maund, Prif Swyddog Marchnata

Dilyn PureCyber ar LinkedIn