Partneriaid masnachol newydd CCC: Danske Bank UK
Fel rhan o gyfres o blogiau ar partneriaid masnachol newydd Cartrefi Cymunedol Cymru ar gyfer 26/27, mae Terri McCullagh,Cyfarwyddwr Perthynas ar gyfer Tai Cymdeithasol, yn esbonio pam y dewisodd Danske Bank UK ffurfio partneriaeth newydd gyda’n sector.
Pam wnaethoch chi ddewis dod yn bartner masnachol i CHC?
Credwn y bydd y bartneriaeth yn rhoi cyfleoedd i Danske Bank lunio partneriaethau strategol hirdymor gyda landlordiaid cymunedol ledled Cymru a’n galluogi i ychwanegu gwerth cymdeithasol i’r cyllid a gynigiwn.
Mewn argyfwng tai, mae’n bwysicach nag erioed fod sector tai cymdeithasol Cymru yn ehangu cyflenwi tai fforddiadwy, datgarboneiddio stoc presennol a chryfhau eu gwytnwch hirdymor. Fel partner masnachol, gallwn ddarparu cyllid hyblyg ac arbenigedd sector a chydweithio gyda chymdeithasau i gefnogi buddsoddiad cynaliadwy a deilliannau cadarnhaol ar gyfer eu cymunedau ledled Cymru.
Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?
Er ein bod yn darparu gwasanaethau bancio llawn i’n cwsmeriaid yng Ngogledd Iwerddon, rydym yn darparu cyfleusterau credyd cylchol a dyled cyfnod i gwsmeriaid tai cymdeithasol ledled Lloegr a Chymru. Gallwn hefyd gynnig datrysiadau rheoli risg cyfraddau llog i’n cwsmeriaid.
Pa gyswllt fu gennych chi gyda’r sector tai cymdeithasol hyd yma?
Fe wnaethom ymuno â sector Tai Cymdeithasol a Fforddiadwy Lloegr yn 2015 ac ehangu i Gymru yn 2022. Tai cymdeithasol a fforddiadwy bellach yw sector mwyaf Northern Bank Limited.
Credwn fod amcanion strategol Danske Bank yn hollol gydnaws gyda’r sector a hoffem barhau i ehangu ein benthyca i sector tai cymdeithasol Cymru, ac ychwanegu gwerth, lle’n bosibl.
Sut y gall Danske Bank UK gefnogi cymdeithasau tai yng Nghymru?
Credwn y gallwn ddarparu datrysiadau cyllid i ddarparwyr tai cymdeithasol ledled Cymru i’w helpu i gyflawni eu diben cymdeithasol.
Rydym yn hyderus y gallwn fod yn bartner strategol cryf i’n cwsmeriaid a rhoi gwerth ychwanegol, pan fo angen, drwy ein dull gweithredu a gaiff ei arwain gan berthynas.
Beth yw’r cyfleoedd allweddol ar gyfer y sector tai cymdeithasol yng Nghymru a pha rôl ydych chi’n gweld eich sefydliad yn ei chwarae wrth helpu cymdeithasau i gael y fantais fwyaf ohonynt?
Mewn argyfwng tai, mae’n bwysicach nag erioed fod sector tai cymdeithasol Cymru yn ehangu cyflenwi tai fforddiadwy, datgarboneiddio stoc presennol a chryfhau eu gwytnwch hirdymor.
Fel partner masnachol, gallwn ddarparu cyllid hyblyg ac arbenigedd sector a chydweithio gyda chymdeithasau i gefnogi buddsoddiad cynaliadwy a deilliannau cadarnhaol ar gyfer eu cymunedau ledled Cymru.
Canfod mwy gan Danske Bank UK
Mynd i wefan Danske Bank UK
Dilyn Terri McCullagh ar LinkedIn