Jump to content

Ymunwch â ni fel partner masnachol ar gyfer 2027/28

Cartrefi da yw’r seilwaith atal yng Nghymru. Pan fyddwn yn cael tai yn iawn, caiff y manteision eu teimlo ym mhobman: biliau ynni is, iechyd gwell ac economi fwy gwydn.

Heddiw, mae gormod o bobl yn dal i fyw mewn cartrefi sy’n anfforddiadwy, anaddas neu anniogel, ac mae gormod heb le i’w alw’n adre. 

Nid yw’n rhaid iddi fod fel hyn.

Mae gennym gyfle i wneud mwy na dim ond ymateb i’r argyfwng. Mae’n amser i wneud dewisiadau bwriadol i lunio dyfodol gwahanol.

Mae cymdeithasau tai mewn sefyllfa unigryw i symud y deial o argyfwng tai i adferiad tai – adeiladu mwy o gartrefi, gwella cartrefi presennol a chreu lleoedd iachach a thecach ar gyfer pobl a chymunedau ar draws y wlad.

Nid ydynt yn aros am newid – maent eisoes yn cyflawni hynny. Ond ni allant ei wneud ar ben ein hunain.

Mae’r 31 cymdeithas tai a gynrychiolwn yn cynrychioli gwybodaeth sefydliadau sy’n rhannu’r weledigaeth hon i’w helpu i aros yn wydn a darparu cartrefi ansawdd da i breswylwyr gyda’r cymorth hanfodol a gwasanaethau cysylltiedig i’w helpu i aros yn wydn. 

Dyma lle dewch chi i mewn iddi.

Ein partneriaid cyfredol

Cawn ein cefnogi gan ystod eang o fusnesau sy’n arwain y diwydiant. Mae ein partneriaid presennol yn cynnwys Hugh James sydd yn 100 uchaf y cwmnïau cyfreithiol, yr arbenigwyr caffael CHIC a’r arbenigwyr diogelwch seiber PureCyber.

Mae partneriaid masnachol CHC hefyd yn cynnig arbenigedd mewn meysydd fel yswiriant, pensiynau, trysorlys, datblygu a chynnal a chadw a rheoli eiddo.

A collage of images featuring housing association staff talking to representatives from two of our commercial partners, E.ON and Barcud Shared Services, at recent CHC conferences

Bod yn rhan o’r adferiad tai

I ymateb i newidiadau yn y tirlun gwleidyddol ac economaidd a chefnogi’r sector wrth iddo weithio tuag at adferiad tai, rydym yn edrych am bartneriaid masnachol newydd i ehangu’r ystod arbenigedd sydd ar gael i’n haelodau.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2027/28) rydym yn edrych am gwmnïau sy’n gweithio yn y sectorau canlynol i fod yn bartner i ni:

 

🍃 Sero Net ac Ôl-osod: Technoleg wyrdd arloesol, arbenigwyr mewn effeithiolrwydd ynni neu gynghorwyr ar ddatgarboneiddio.

 

🛠️  Rheoli Asedau a Diogelwch Tai : Arbenigwyr sy’n cefnogi lliniaru lleithder/llwydni, diogelwch tenantiaid neu logisteg gwaith trwsio.

 

💻 Trawsnewid Digidol a Data: Systemau tai deallus, dulliau cyfathrebu â thenantiaid neu ddadansoddi data.  

 

⚖️ Llywodraethiant a Chyllid: Cwmnïau ymgynghori neu bartneriaid cyllid sy’n rhannu gwerthoedd y sector yng Nghymru.

 

📢 Cyfathrebu: Sefydliadau a all gefnogi ein haelodau i gyfathrebu eu gweithgaredd a’u rôl mewn adferiad tai yn glir i randdeiliaid allweddol a’r cyhoedd yn gyffredinol. 

Beth sydd ynddo i chi?

  • Detholrwydd: Dod y man mynd-iddo yn eich maes arbenigedd ar gyfer cymdeithasau tai 
     
  • Amlygrwydd: Hybu eich brand, tyfu eich presenoldeb a dod yn bartner dibynadwy 
     
  • Perthnasoedd: Adeiladu a meithrin partneriaethau parhaus gyda chymdeithasau tai yng Nghymru
     
  • Hyblygrwydd: Ymuno â ni fel partner masnachol am 1 flwyddyn (Ebrill 2027 / Ebrill 2028) neu 3 blynedd (Ebrill 2027 / Ebrill 2030)
     
Edrychwch ar ein Pecyn Partneriaethau Masnachol

Gwnewch gais heddiw

Os oes gennych ddiddordeb mewn manteisio ar y cyfle hwn, gofynnir i chi GYFLWYNO DATGANIAD DIDDORDEB YMA

Caiff ceisiadau eu derbyn hyd at ddydd Iau 14 Ionawr 2027.

Dim yn siŵr os yw partneriaeth fasnachol yn iawn i chi?

Gadewch i ni gael sgwrs! Cysylltwch â Breanna Garbett-Davies os gwelwch yn dda i drefnu sgwrs gyda Louise Price-David, ein Pennaeth Aelodau a Phartneriaethau.

Hyd yn oed os yw eich arbenigedd y tu allan i’n meysydd ffocws ar gyfer y flwyddyn nesaf neu os ydych yn gweithio mewn meysydd y mae ein partneriaid cyfredol yn gweithredu ynddynt, mae digonedd o gyfleoedd yn dal i fod i gefnogi cymdeithasau tai a chydweithio gyda ni, yn cynnwys noddi digwyddiadau.