Partneriaid masnachol newydd CCC: Insight HRC
Fel rhan o gyfres o blogiau ar partneriaid masnachol newydd Cartrefi Cymunedol Cymru ar gyfer 26/27, mae Pip Gwynn, Rheolwr Gyfarwyddwr, yn esbonio pam y dewisodd Insight HRC ffurfio partneriaeth newydd gyda’n sector.
Pam wnaethoch chi ddewis dod yn bartner masnachol i CHC?
Mae ein gwerthoedd a’n hymagwedd at feithrin diwylliant a datblygu arweinwyr yn gydnaws iawn gyda CHC a sector tai Cymru.
Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o weithio gyda chymdiethasau tai, yn ogystal â llywodraeth ganolog a lleol, iechyd, addysg a chyrff y trydydd sector sy’n effeithio ar dai, mae gennym dealltwriaeth ddofn o’r sector.
Mae ein cysylltiadau hefyd yn ymestyn i gwmnïau cyfraith a chyfrifeg sy’n cefnogi tai. Mae’r wybodaeth, profiad ac aliniad gwerthoedd yma wedi ein sefydlu fel partner ymroddedig i aelodau CHC.
Mae tystiolaeth o gyflwyno sesiynau yn nigwyddiadau CHC yn cadarnhau y croesewir ein hymagwedd a bod hynny’n hanfodol i gefnogi sefydliadau tai i fynd i’r afael â’u heriau.
Rydym wedi dewis dod yn Bartner Corfforaethol i Cartrefi Cymunedol Cymru er mwyn cefnogi’r sector a chymdeithasau tai unigol wrth ddatblygu’r arweinwyr a’r diwylliant sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r newid cyflym na welwyd ei debyg mewn blynyddoedd diweddar ac i mewn i 2026.
Credwn mai gweithleoedd llawn cymhelliant, sy’n ysbrydoli, yn optimistig ac egnïol sy’n rhoi’r cyfle gorau ar gyfer y gweithwyr proffesiynol tai i gyflenwi eu gwaith gorau. Cefnogwn hyn drwy weithio gydag arweinwyr i greu diwylliant lle mae pobl wedi eu grymuso, yn atebol, rhagweithiol ac iach.
Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?
Rydym yn darparu datrysiadau pwrpasol a seiliedig ar dystiolaeth yn cynnwys datblygu arweinyddiaeth a rheoli, asesiad, hyfforddi cyfarwyddwyr, diagnosteg a newid diwylliant a datblygu tîm. Caiff y rhain eu cyflwyno drwy ddulliau dysgu newydd a rhyngweithiol ac ymagwedd ddynol.
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys darparu asesiad seicometrig ar gyfer datblygu ac asesu arweinwyr a datblygu Map Diwylliant am ddim i helpu byrddau ac uwch dimau i ddadansoddi eu diwylliant a blaenoriaethau newid. Rydym yn cyflwyno hyfforddiant ad hoc a hefyd raglenni datblygu hirach.
Rydym wedi datblygu ein dull hyfforddi NeuroTeams ar gyfer timau uwch drwy ein gwaith yn y sector tai. Mae’n golygu gweithio gyda thimau uwch i adeiladu perthnasoedd eithriadol o gryf a dibynadwy sy’n galluogi gwneud penderfyniadau anodd ond angenrheidiol a chyflwyno newid, tra’n cynnal egni a llesiant.
Rydym yn lansio dwy raglen datblygu arweinyddiaeth newydd eleni: un ar gyfer arweinwyr strategol ac un ar gyfer arweinwyr canol. Mae ein dull ar gyfer arweinwyr strategol yn canolbwyntio ar y sgiliau, ffyrdd o feddwl a dulliau gweithredu mae uwch arweinwyr eu hangen i hybu newid sefydliadol a mynd i’r afael â heriau ein hoes.
Rydym yn ail-lunio arweinwyr canol fel “arweinwyr cysylltu”, peiriant sefydliadau sy’n rhoi strategaeth ar waith, ymgysylltu a galluogi timau, chwalu seilos a darparu gwasanaethau rhagorol ar gyfer tenantiaid a phreswylwyr.
Pa gyswllt fu gennych chi gyda’r sector tai cymdeithasol hyd yma?
Mae Plentific yn gweithio mewn partneriaeth gyda darparwyr tai cymdeithasol ar draws y Deyrnas Unedig i gyflenwi sefydliadau eiddo cysylltiedig, sy’n canolbwyntio ar y preswylwyr sy’n gwella cyflenwi gwasanaeth, yn cryfhau cydymffurfiaeth ac yn adeiladu gwytnwch sefydliadol hirdymor.
Mae’r platfform yn dod ag atgyweirio, cydymffurfiaeth, rheoli’r gadwyn gyflenwi ac ymgysylltu â phreswylwyr ynghyd mewn un amgylchedd integredig gan alluogi darparwyr tai i symud o brosesau darniog a weithredir â llaw i weithrediadau wedi’u symleiddio a gaiff eu gyrru gan ddata.
Sut y gal Insight HRC gefnogi cymdeithasau tai yng Nghymru?
Rydym yn anelu i gryfhau ein perthnasoedd presennol a llunio cysylltiadau newydd o fewn y sector tai.
Gallwn wella ein gwasanaethau drwy ehangu ein dealltwriaeth o heriau a chyfleoedd y sector.
Rydym yn cynnig cydweithio gyda CHC i gyd-greu a chyflenwi rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar gyfer uwch arweinwyr a darpar weithredwyr a fyddai’n cefnogi cynllunio olyniaeth ar draws y sector.
Rydym hefyd eisiau cefnogi arweinwyr adnoddau dynol wrth fynd i’r afael â heriau tebyg i newid diwylliant ac ymgysylltu.
Bydd y cydweithio hwn yn cynnig cyfleoedd newydd i ni gyflenwi ein gwasanaethau a hybu gwaith cleientiaid presennol drwy gronni adnoddau a hwyluso dysgu ymhlith cymheiriaid.
Beth yw’r cyfleoedd allweddol ar gyfer y sector tai cymdeithasol yng Nghymru a pha rôl ydych chi’n gweld eich sefydliad yn ei chwarae wrth helpu cymdeithasau i gael y fantais fwyaf ohonynt?
Mae tai cymdeithasol yn allweddol i oresgyn cynifer o’r heriau sy’n wynebu Cymru a gaiff eu gyrru gan dlodi ac afiechyd. Mae cymunedau ffyniannus lle mae pobl yn byw mewn cartrefi diogel, cynnes ac effeithol o ran ynni, yn galluogi pobl i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial. Cawn ein synnu bob amser gan ymroddiad y gweithwyr proffesiynol yn y sector tai yng Nghymru i wneud gwahaniaeth ac i barhau i ganfod ffyrdd newydd i ddiwallu anghenion cymunedau, er y pwysau ariannol sy’n eu hwynebu.
Credwn mai gweithleoedd llawn cymhelliant, sy’n ysbrydoli, yn optimistig ac egnïol sy’n rhoi’r cyfle gorau ar gyfer y gweithwyr proffesiynol ymroddedig hynny i gyflenwi eu gwaith gorau. Cefnogwn hyn drwy weithio gydag arweinwyr i greu diwylliant lle mae pobl wedi eu grymuso, yn atebol, rhagweithiol ac iach. Mae’r rhain yn bethau anodd i’w cyflawni ond gall ein gwybodaeth o’r seicoleg a’r niwrowyddoniaeth sy’n gyrru ymddygiad dynol helpu cymdeithasau tai i ddatgloi hyd yn oed mwy o botensial yn eu pobl.