Jump to content

18 Mai 2023

Cartrefi Cymunedol Cymru yn rhybuddio na fydd taliadau Costau Byw yn ‘pontio’r bwlch’ i denantiaid tai cymdeithasol mewn anawsterau

Cartrefi Cymunedol Cymru yn rhybuddio na fydd taliadau Costau Byw yn ‘pontio’r bwlch’ i denantiaid tai cymdeithasol mewn anawsterau

Rhybuddiodd arbenigwr o Cartrefi Cymunedol Cymru y bydd cannoedd o filoedd o denantiaid tai cymdeithasol ledled Cymru yn ei “chael yn anodd dod â deupen llinyn ynghyd” er y byddant yn derbyn taliadau costau byw o’r mis hwn ymlaen.

Dywedodd Hayley Macnamara, rheolwr polisi a materion allanol y corff masnach sy’n cynrychioli cymdeithasau tai Cymru, na fyddai’r taliadau o £301 gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ddigon i bontio’r diffyg ariannol sy’n wynebu tenantiaid ar hyn o bryd.

Caiff y taliadau costau byw cyntaf eu talu ar hyn o bryd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau,

gyda dau randaliad arall i’w talu yn ddiweddarach eleni ac yn 2024. Amcangyfrifir y bydd 422,000 o aelwydydd ledled Cymru yn derbyn y taliad costau byw cyntaf.

Fodd bynnag dywedodd Mrs Macnamara, arweinydd y sector ar gostau byw, na fyddai’r taliadau yn ddigon i gefnogi pobi sy’n profi cynnydd enfawr mewn prisiau bwyd, tanwydd ac ynni.

Dywedodd: “Hyd yn oed gyda’r taliadau hyn, mae tenantiaid tai cymdeithasol yn ei chael yn anodd ddod â deupen llinyn ynghyd wrth i gostau byw barhau i gynyddu.

“Croesewir y taliadau hyn ond nid ydynt yn ddigon i bontio’r bwlch rhwng y costau cynyddol sy’n wynebu tenantiaid a’r gostyngiad yn y cymorth ariannol sydd ar gael i denantiaid tai cymdeithasol eleni o gymharu â’r llynedd.

“Mae tenantiaid tai cymdeithasol ymysg y rhai a gafodd eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw felly mae’n rhaid gwneud mwy i sicrhau fod ganddynt gymorth a chyngor ariannol digonol yn ystod y cyfnod anhygoel o heriol yma.”

Yn ychwanegu at y pwysau ariannol sy’n wynebu tenantiaid yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus mae diwedd Cynllun Cymorth Biliau Ynni Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru ac ad-daliadau treth gyngor, sydd wedi gadael pobl yn wynebu hyd yn oed fwy o galedi.

Dywedodd Mrs Macnamara ei bod yn hanfodol na chaiff pobl eu gorfodi i ddewis rhwng ‘bwyd a gwres’ wrth i bwysau ariannol barhau i wasgu cyllidebau aelwydydd hyd yn oed ymhellach.

Ychwanegodd: “Er y gallai’r darogan diweddaraf weld aelwydydd yn arbed tua £440 y flwyddyn fel rhan o’r cap ar brisiau ynni, bydd pobl yn dal i fod yn talu £1,000 yn fwy nag oeddent cyn y pandemig.

“Mae’r holl argyfwng costau byw wedi gwneud y diffyg dewis ar gyfer y bobl sydd fwyaf amddifadus yn ein cymdeithas yn fwy llwm nag erioed.

“Mae cynifer wedi gorfod dewis rhwng bwyd a gwres, ac mae hyn yn ein hatgoffa pa mor hanfodol yw rhwyd diogelwch tai da a chymorth lles priodol. Mae angen i ni sicrhau fod y system llesiant yn rhoi cymorth digonol fel nad yw’n rhaid iddynt byth ystyried dewis rhwng hanfodion.”

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru’n sy’n cynrychioli 34 cymdeithas tai Cymru, yn argymell drwy ei adroddiad Amser Gweithredu y caiff polisïau llesiant presennol eu gwella, yn cynnwys drwy gynyddu lwfans safonol Credyd Cynhwysol.

I gael mwy o wybodaeth ar Cartrefi Cymunedol Cymru a’i waith yn cefnogi cymdeithasau tai yng Nghymru, ewch i’w wefan yma neu ei ddilyn ar y cyfryngau media@CHCymru.org.uk