Jump to content

10 Gorffennaf 2024

Etholiad Cyffredinol 2024: beth nesaf ar gyfer cymdeithasau tai Cymru?

Etholiad Cyffredinol 2024: beth nesaf ar gyfer cymdeithasau tai Cymru?

Dim ond ychydig ddyddiau ar ôl cyhoeddi’r canlyniadau terfynol, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi dechrau cyhoeddi symudiadau polisi allweddol, gan ddatblygu cynlluniau ar gyfer ei mis cyntaf yn rhedeg y wlad.

Penodwyd cabinet newydd, gyda Angela Rayner yn cymryd swydd ysgrifennydd gwladol yr adran tai, cymunedau a llywodraeth leol dan ei henw newydd. Mae penodiadau pwysig eraill i’r sector tai yn cynnwys Rachel Reeves (canghellor), Wes Streeting (ysgrifennydd iechyd), Ed Miliband (ysgrifennydd ynni) a Liz Kendall (ysgrifennydd gwaith a phensiynau).

Yn ei haraith gyntaf fel Canghellor, cyhoeddodd Rachel Reeves fesurau i ddiwygio’r system cynllunio ac ailgyflwyno targedau tai yn Lloegr. Bydd y llywodraeth nesaf eisiau gweld cynghorau Lloegr yn rhoi blaenoriaeth i dir llwyd a’r gwregys llwyd ar gyfer datblygu.

Cafodd y gwaharddiad ar wynt ar y tir yn Lloegr hefyd ei godi. Mae’r Llywodraeth Lafur eisiau dod â gwynt ar y tir i system prosiectau seilwaith cenedlaethol arwyddocaol,, gan olygu y caiff penderfyniadau ar ddatblygiadau mawr eu cymryd yn genedlaethol, nid yn lleol. Byddant hefyd yn rhoi blaenoriaeth i brosiectau ynni yn y system i gyflymu cynnydd.

Mae cynllunio yn fater sydd wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, fodd bynnag mae’r mesurau hyn yn bwysig oherwydd:

  1. Mae’n amlygu’r angen am ddiwygio cynllunio ar draws y Deyrnas Unedig.
  2. Gall cynyddu ffynonellau ynni adnewyddadwy ar draws y Deyrnas Unedig ostwng cost trydan ar amser pan mae biliau ynni anfforddiadwy yn wynebu llawer o breswylwyr.

Wrth edrych ar Gymru, penodwyd Jo Stevens – AS Dwyrain Caerdydd – yn ysgrifennydd gwladol Cymru, a chyhoeddodd mai ei “blaenoriaeth lwyr yw cyflawni ar gyfer Cymru a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu’r economi, hybu buddsoddiad a chreu swyddi.”

Ychwanegodd, “Fel canlyniad i’n cynlluniau, bydd pobl ar draws Cymru yn rhannu yn y ffyniant hwnnw a byddwn yn mynd i’r afael ag amddifadedd a thlodi gyda’n gilydd.”

Ym maniffesto Cymru nododd Llafur sut y gallai’r ddwy llywodraeth Lafur gydweithio i gyflawni’r uchelgais o Gymru lewyrchus.

Y camau nesaf ar gyfer cymdeithasau tai

Er bod pa mor gyflym y mae’r llywodraeth newydd wedi mynd ati i weithio yn galonogol, rydym yn parhau i annog Llywodraeth y DU i weithredu fel mater o frys a:

  • gael dull holistig o gymorth llesiant sy’n atal digartrefedd ac sy’n cefnogi mynediad i’r farchnad rhent;
  • diwygio’r Credyd Cynhwysol i sicrhau y gall hawlwyr dalu o leiaf am yr holl hanfodion;
  • gwella’r system Credyd Cynhwysol ar gyfer hawlwyr a hefyd gymdeithasau tai;
  • creu system ynni sy’n diogelu aelwydydd incwm isel;
  • ymrwymo i gefnogi’r sector tai cymdeithasol i gyflawni ei nodau sero net.

Rydym hefyd yn parhau i ymgysylltu gyda Llywodraeth y DU a meithrin perthynas gyda’r Aelodau Seneddol newydd a’r Aelodau Seneddol a ail-etholwyd yng Nghymru Rydym hefyd yn gweithio gyda’r cymdeithasau tai a gynrychiolwn i sicrhau y gall ASau lleol weld sut mae costau byw yn parhau i wthio tenantiaid tai cymdeithasol i argyfwng, ac y gallant weithio gyda ni i barhau i adeiladu Cymru lle mae gan bawb fynediad i gartref gweddus, fforddiadwy.

Cyngor i aelodau

Mae ein tîm polisi wedi datblygu cyngor ac asedau dechreuol i chi gysylltu gyda’ch AS lleol – gallwch eu gweld ar ein Hyb Tai yma. Mae ein papur gwybodaeth diweddaraf ar yr etholiad cyffredinol, gyda ffocws ar y canlyniadau a’r camau nesaf i aelodau, hefyd ar gael ar yr hyb.

Rydym hefyd yn croesawu Cathy Owens, cyfarwyddwr asiantaeth materion cyhoeddus Deryn, atom i weminar ecsliwsif ar gyfer aelodau ar 15 Gorffennaf 2024. Yn y sesiwn yma, bydd Cathy yn rhannu dadansoddiad dechreuol Deryn o ganlyniadau’r etholiad cyffredinol, trafod yr hyn a olygant i Gymru rhoi sylw i heriau a chyfleoedd dylanwadu posibl ar gyfer cymdeithasau tai Cymru.

Cliciwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth.

Mae'r digwydiadd hwn wedi dod i ben